Cynlluniau i adeiladu eisteddle newydd yn y Cae Ras yn cael sêl bendith
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu eisteddle newydd yn y Cae Ras.
O dan arweinyddiaeth eu perchnogion enwog, mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn bwriadu dymchwel hen eisteddle'r 'Kop' er mwyn creu lle i 5,500 o gefnogwyr ychwanegol yn y stadiwm.
Bydd adeiladu'r eisteddle newydd yn golygu y bydd pob eisteddle yn y stadiwm yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ers 2008. Fe fydd torf o dros 15,000 yn gallu mynychu gemau Wrecsam.
Fe fydd y clwb yn ariannu rhan o'r prosiect newydd, ond maent hefyd wedi gwneud cais am fuddsoddiad gan y Gronfa Lefelu Fyny. Mae disgwyl i ganlyniad y cais gael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd cyd-berchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney: "Gyda chymeradwyaeth y pwyllgor cynllunio, rydym yn gallu bwrw ymlaen gyda datblygiad y Kop, gan ddechrau gyda dymchwel y strwythur presennol."
Ychwanegodd y ddau eu bod yn gobeithio y bydd yr eisteddle newydd yn ei le erbyn dechrau tymor 2024/25.