Dafydd Iwan: 'Disgwyl' i Mark Drakeford godi cwestiynau am hawliau dynol yn Qatar
Dafydd Iwan: 'Disgwyl' i Mark Drakeford godi cwestiynau am hawliau dynol yn Qatar
Mae Dafydd Iwan yn dweud ei fod yn "disgwyl" i Brif Weinidog Cymru godi cwestiynau ynglŷn â hawliau dynol wrth iddo deithio i Qatar.
Mae cwestiynau wedi codi dros fwriad Mark Drakeford i deithio i'r wlad ar gyfer Cwpan y Byd, wedi i arweinydd y Blaid Lafur yn y DU, Syr Keir Starmer, ddweud y dylai aelodau gadw draw o'r bencampwriaeth bêl-droed.
Daw hyn wrth i ymgyrchwyr barhau i leisio pryderon ynglŷn ag agweddau Qatar tuag at fenywod a phobl LHDT+ ac adroddiadau bod gweithwyr tramor wedi'u cam-drin yn y wlad wrth adeiladu'r stadiymau ar gyfer y bencampwriaeth.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, wrth i fersiwn newydd o'i gân Yma O Hyd gael ei chyhoeddi, dywedodd Dafydd Iwan, sydd hefyd yn teithio i Qatar, y bydd yn achub ar unrhyw gyfle i dynnu sylw at faterion hawliau dynol.
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i Mr Drakeford wneud yr un peth.
"Fel Prif Weinidog Cymru mi fydd o eto yn gyfle iddo fo ddweud 'i fod o'n Brif Weinidog ar genedl, a bod gynnon ni Senedd sydd yn cryfhau, ac yn mynd i gryfhau mwy, gobeithio, i'r dyfodol.
"Dwi'n meddwl bod hi'n chwerthinllyd fod Fifa rŵan yn dweud cadw'ch wleidyddiaeth allan ohoni.
"Achos mae'r penderfyniad i fynd i Qatar wedi bod yn benderfyniad gwleidyddol, ac mae hynny wedi dod â gwleidyddiaeth i ganol y darlun."
Daw'r sylwadau wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi'r fersiwn newydd o 'Yma o Hyd' fel cân swyddogol Cymru ar gyfer y gystadleuaeth.
Ond mae'r gymdeithas yn wynebu galwadau o'r newydd i wneud mwy i dynnu sylw at record hawliau dynol Qatar, yn sgil protestiadau diweddar gan dimau Denmarc ac Awstralia.
Dywedodd y Prif Weithredwr Noel Mooney nad 'cystadleuaeth' yw ymateb i bryderon dros hawliau dynol.
Ond yn ôl Dafydd Iwan, mae'n bwysig i gymryd y cyfle i godi cwestiynau pwysig.
"Do'n i ddim yn teimlo awydd angerddol i fynd i Qatar achos dwi ddim yn credu dylai Cwpan y Byd fod yno beth bynnag.
"Ond ar ôl cael gwahoddiad yn deud fyswn i'n licio i chi fynd yno fel rhan o'r tîm fyddai'n siarad dros Gymru, dydy o ddim yn golygu mod i'n cytuno, ac ma' 'na gwestiynau i'w gofyn ac os gai gyfle mi fydda i'n i gofyn nhw."
"Dwi'n casau be ma' nhw'n... hynny yw ma' gymaint o'r gwledydd yna yn y Dwyrain Canol yn torri ar hawliau, a'n cyfyngu ar hawliau merched a hoywon, ac mae'r hyn ma' nhw'n ei wneud yn wleidyddol i gadw mewn grym.
"Mae'r holl bethau 'na yn peri gofid, a dwi ddim yn licio'r peth."