Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn 20 oed 'cariadus, hael a hapus' fu farw mewn gwrthdrawiad

07/11/2022
Finnley Michael Jones

Mae teulu dyn 20 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Finnley Michael Jones, oedd yn byw ym Mae Penrhyn, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 yn Llandudno.

Dywedodd ei deulu y bydd ei "rhagolwg positif, ei hiwmor, a'i anwyldeb yn aros gyda ni o hyd".

Ychwanegodd ei deulu: "Roedd bob amser y person ifanc mwyaf cariadus, hael a hapus, a oedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf ac fe fydd ei deulu a'r nifer o ffrindiau oedd ei adnabod a'i garu yn gweld ei eisiau'n ofnadwy."

Mae'r teulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd a gynorthwyodd yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 20:30 ar ddydd Llun, 24 Hydref, rhwng Vauxhall Corsa du a Vauxhall Corsa gwyn ar Ffordd Conwy'r A470.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r llu gan ddefnyddio cyfeirnod B161618.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.