Rhybudd melyn am wynt a glaw i ran helaeth o'r wlad
07/11/2022
Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am wynt a glaw dros ran helaeth o Gymru yn ddiweddarach dydd Llun.
Bydd 18 o siroedd ar draws y wlad yn cael eu heffeithio.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 18:00 ac 23:59.
Fe allai gwyntoedd gyrraedd hyd at 70 milltir yr awr mewn mannau arfordirol ac mae disgwyl y bydd 20mm o law yn disgyn mewn awr.
Fe allai cenllysg a tharanau daro rhai mannau, gyda rhybuddion am effaith i bobl sy'n gyrru ar ffyrdd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gâr
- Torfaen
- Ynys Môn