Elusen yn galw am fwy o barciau chwarae i blant ag anableddau
Elusen yn galw am fwy o barciau chwarae i blant ag anableddau
Mae elusen Scope yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd gwerth £7m i sicrhau bod mwy o barciau chwarae yn addas i blant ag anableddau.
Gyda chostau ar gynnydd, mae ymgyrchwyr yn dweud ei bod hi’n bwysig cael rhywbeth sy’n rhad ac am ddim i blant a theuluoedd allu ei wneud yn agos at adref.
Aeth Newyddion S4C i siarad â Clara a’i mam, Sera-Jane Thomas. Mae gan Clara barlys yr ymennydd, sy’n cyfyngu ar ei symudiad.
Ychydig iawn o chwarae mae hi’n gallu ei wneud.
Dywedodd Ms. Thomas, ‘Bydde fe’n neud lot o wahaniaeth i ni fel teulu i gael parciau mwy cynhwysol. Allen ni gyd mynd mas a joio’r un peth, dim jyst Clara yn eistedd a watchio chwiorydd hi’n chwarae.”
Dywedodd hefyd bod yn well ganddi aros adref yn hytrach na mynd i’r parciau, fel nad yw Clara yn teimlo ei bod hi’n colli allan:
Ychwanegodd: “Fi yn teimlo lot o guilt bod Clara jyst yn gorfod eistedd yna a bod dim byd mae hi’n gallu mynd arno, tra bod pawb arall yn joio.’
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru mai “Cymru oedd y wlad gyntaf ledled y byd i ddeddfu ar chwarae plant. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i wella’r cyfleoedd i bob plentyn gael chwarae.
"Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i holl blant y sir.”