Newyddion S4C

Gŵyl y banc ychwanegol i nodi coroni Brenin Charles III

06/11/2022
Y Brenin Charles

Fe fydd gŵyl y banc ychwanegol ar draws y DU i nodi achlysur coroni Brenin Charles III y flwyddyn nesaf.

Fe fydd yr ŵyl yn cael ei dathlu ar ddydd Llun 8 Mai 2023 deuddydd ar ôl y seremoni yn Abaty Westminster.

Mae hyn yn ychwanegol i’r ŵyl sydd yn barod wedi ei threfnu ar ddydd Llun 1 Mai.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak y bydd yr achlysur yn rhoi cyfle i bobl “ddod at ei gilydd a dathlu.”

Ychwanegodd fod yr ŵyl yn nodi “moment unigryw i’n gwlad.” Gan ddilyn traddodiad, mae'r seremoni ar ddydd Sadwrn 6 Mai, 2023 yn cael ei chynnal rai misoedd wedi'r cyfnod o alaru brenhinol ar ôl marwolaeth y Frenhines Elizabeth II. 

Fe fydd y seremoni yn Abaty Westminster yn Llundain o dan arweiniad Archesgob Caergaint. 

Yn ôl y Palas Buckingham, fe fydd y seremoni yn dilyn y strwythur traddodiadol sydd wedi bodoli ers canrifoedd, ond bydd hefyd yn cynnwys elfennau a fydd yn "adlewyrchu ysbryd y cyfnod hwn." 

Ychwanegodd y palas y bydd y seremoni yn ystyried rôl y brenin heddiw ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. 

Ynghyd â Charles III, fe fydd ei wraig, y Frenhines Gydweddog Camilla, hefyd yn cael ei choroni. 

Bydd y Brenin Charles III yn 74 oed pan gaiff ei goroni fis Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.