Newyddion S4C

Elon Musk

Elon Musk yn amddiffyn toriadau sylweddol i staff Twitter

Sky News 05/11/2022

Mae’r dyn busnes, Elon Musk, wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddiswyddo bron i hanner gweithwyr Twitter.

Mae’r biliwnydd bellach wedi cwblhau ei bryniant o’r wefan a’r gwasanaeth cymdeithasol am $44bn (£38.7bn)

Dywedodd fod ganddo “ddim dewis” oherwydd bod Twitter yn colli $4miliwn (£3.5miliwn) y dydd.

Dywedodd Mr Musk fod ymrwymiad y cwmni i gymedroli cynnwys “yn bendant heb newid.”

Ychwanegodd fod pawb sydd yn cael eu diswyddo yn cael cynnig tri mis o gyflog diswyddo sydd yn “50% yn fwy na’r hyn sy’n ofynnol yn gyfreithiol.

Darllenwch fwy yma.

Darllenwch fwy yma.
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.