Rhybudd melyn am stormydd mewn rhannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru ddydd Iau.
Fe fydd y rhybudd, sydd yn effeithio ar ardaloedd yn y de a'r gorllewin, yn dod i rym am 15:00 ac yn parhau hyd at hanner nos.
Mae disgwyl i rhwng 30 a 40 mm o law gwympo dros gyfnod o ychydig oriau, gyda mellt a chenllysg hefyd yn beryg mewn ardaloedd arfordirol.
Gall y glaw trwm achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd gan achosi difrod i dai a busnesau.
Mae rhai ardaloedd eisoes wedi eu heffeithio gan lifogydd yn dilyn glaw trwm ddydd Mercher.
Fe allai amodau gyrru gael eu heffeithio gan ddŵr yn sefyll, gwyntoedd cryfion a chenllysg ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i ddisgwyl teithiau hirach.
Mae yna bosibilrwydd o darfu ar gyflenwadau trydan hefyd yn ogystal ag oedi ar gyfer gwasanaethau trên neu fws.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin