Newyddion S4C

Gweithwyr y Post Brenhinol yn gohirio streiciau

30/10/2022
post

Mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi gohirio streiciau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer y bythefnos nesaf.

Daw hyn meddai undeb y gweithwyr cyfathrebu (CWU) yn dilyn llythyr cyfreithiol gan y Post Brenhinol.

Mae’r gweithwyr wedi bod yn streicio yn sgil anfodlonrwydd am gyflogau isel wrth i chwyddiant barhau i gynyddu. 

Maent yn dadlau am ragor o gyflog wedi i'r Post Brenhinol wneud elw o £758m y llynedd.

Dywed y Post Brenhinol mai eu bwriad fydd rhedeg cymaint o wasanaethau ag sydd yn bosib, ond na fydd modd darparu gwasanaeth llawn ar ddyddiau'r streicio.

Roedd streiciau wedi eu cynllunio ar gyfer 2, 3, 4, 8, 9 a 10 Tachwedd.

Fe fydd y streiciau yn ail gychwyn ddydd Sadwrn 12 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.