Cynnal etholiadau arlywyddol ym Mrasil

Bydd etholwyr ym Mrasil yn penderfynu ddydd Sul i gadw’r arlywydd asgell dde presennol Jair Bolsonaro neu i bleidleisio dros y cyn arlywydd asgell chwith Luiz Inácio Lula da Silva.
Brasil yw’r bedwaredd wlad ddemocrataidd fwyaf yn y byd ac mae dros 156 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio.
Yn y rownd gyntaf fis yn ôl roedd gan Luiz Inácio Lula da Silva o Blaid y Gweithwyr fantais o 5% o’r holl bleidleisiau ond heb gyrraedd y trothwy o 50% oedd angen arno i ennill.
Fe fydd yr enillydd yn dechrau fel arlywydd ym mis Ionawr.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit