Newyddion S4C

50 wedi marw a degau ar goll wedi storm ar Ynysoedd y Philippines

29/10/2022
storm

Mae 50 o bobl wedi marw ac mae degau eraill ar goll yn Ynysoedd y Philippines yn dilyn llifogydd a glaw trwm yno.

Fe ddaeth y tywydd garw o ganlyniad i Storm Nalgae, wnaeth daro'r ynysoedd rhwng nos Iau a dydd Gwener.

Dywedodd dirprwy-gyrnol y Fyddin, Dennis Almorato, fod y dilyw wedi claddu tua 60 o dai gwledig dros tua 12 erw mewn un gymuned. Nid oedd modd iddo roi amcangyfrif o faint o bentrefwyr a allai fod wedi’u claddu gan y tirlithriad.

Cafodd o leiaf 13 o gyrff, yn cynnwys plant yn bennaf, eu cloddio ddydd Gwener a dydd Sadwrn gan achubwyr yn Kusiong.

Mae'r tywydd stormus dros ran helaeth o’r wlad wedi arwain at wahardd teithio ar y môr, wrth i filiynau o bobl gynllunio i deithio dros y penwythnos ar  ymweliad â pherthnasau yn ystod Gŵyl yr Holl Saint.

Mae sawl cwmni hedfan wedi atal hediadau o fewn y wlad hefyd, gan arwain at oedi i fileodd o deithwyr.

Yn ôl yr awdurdodau fe gafodd dros 158,000 o bobl mewn sawl talaith eu symud i dir oedd ffwrdd o lwybr y storm.

Llun: Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau Ynysoedd y Philippines

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.