Llai yn cyfrannu i elusenau a banciau bwyd yn sgil yr argyfwng costau byw
Mae elusennau a grwpiau cymunedol yn profi lleihad mewn cyfraniadau yn sgil yr argyfwng costau byw.
Wrth i'r galw am gyfraniadau gyrraedd lefelau digynsail, mae grwpiau cymunedol wedi profi llai o gyfraniadau ariannol yn ogystal â rhai bwyd, yn ôl arolwg gan blatfform Neighbourly.
Dywed yr arolwg bod dau draean o fudiadau bach gwirfoddol ar draws y DU wedi profi lleihad mewn cyfraniadau, gyda chwech mewn deg yn adrodd eu bod bellach yn derbyn llai o fwyd gan y cyhoedd ac archfarchnadoedd.
Fe wnaeth arolwg ar wahan ganfod bod naw allan o ddeg elusen wedi profi cynnydd mewn galw.
Dywedodd y mwyafrif o elusennau eu bod nhw'n pryderu am dalu costau ynni a thrafnidiaeth yn ogystal â sicrhau digon o fwyd ac incwm a chadw gwirfoddolwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Cymorth Elusennau (CAF), Neil Heslop, fod elusennau yn gweithio'n galed i gefnogi'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ond yn "gorfod gwneud llawer mwy, gyda llawer llai o arian.
"Mae elusennau angen cyfraniadau yn fwy nag erioed gan bod mwy o deuluoedd yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol y maent yn darparu," meddai.