Dim angen prawf PCR Covid i gael mynediad i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd
Ni fydd angen i gefnogwyr Cymru ddangos canlyniad prawf PCR negyddol er mwyn cael mynediad i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.
Mae Gweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Qatar wedi cyhoeddi na fydd angen i gefnogwyr gymryd prawf wedi'r cyfan, sydd yn dro pedol ar gyhoeddiad ym mis Medi bod angen prawf PCR negatif cyn cael mynediad i'r wlad.
Dywedodd y Weinyddiaeth bod y tro pedol wedi dod wrth i "achosion Covid-19 ar draws y byd ac yn Qatar barhau i ddisgyn, gyda chynllun brechu cenedlaethol Qatar yn parhau."
Fe fydd y newid yn y rheol yn dod i rym ar 1 Tachwedd.
Ar 29 Medi, cyhoeddodd y Weinyddiaeth ddogfen oedd yn cynnwys canllawiau i gefnogwyr oedd yn dweud bod angen prawf PCR negyddol arnynt er mwyn cael mynediad i Qatar.
Roedd angen i'r prawf gael ei gymryd dim mwy na 48 awr cyn hedfan i Qatar, neu roedd hefyd ddewis o gymryd prawf llif unffordd dim mwy 24 awr cyn cyrraedd y wlad.
Ond fe fydd angen i gefnogwyr barhau i lawrlwytho ap Ehteraz. Mae hyn yn ofynnol yn Qatar er mwyn cael mynediad i ganolfannau iechyd yno.