Oedi cyhoeddiad cynllun ariannol Llywodraeth y DU
Bydd cynllun ariannol tymor canolig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei gyhoeddi mwy na phythefnos yn hwyrach na'r disgwyl.
Roedd y datganiad fod dod ar 31 Hydref, ond wedi i Rishi Sunak gael ei benodi'n Prif Weinidog newydd ddydd Mawrth fe fydd yn cael ei oedi tan 17 Tachwedd.
Mae Jeremy Hunt, sydd wedi bod yn Ganghellor y Trysorlys ers ychydig wythnosau, yn cael parhau yn ei rôl yn dilyn ad-drefniad cabinet Rishi Sunak.
Bydd Datganiad yr Hydref hefyd yn cynnwys rhagolwg gan OBR, y corff sy'n gyfrifol am wirio cyllidebau'r wlad i wneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy.
Dywed y llywodraeth mae'r bwriad yw sicrhau bod "gwariant cyhoeddus ar lwybr cynaliadwy, lleihau dyled ac adfer sefydlogrwydd".