CPD Wrecsam yn gwahardd chwaraewr rhag gwisgo esgidiau gyda neges sarhaus arnynt
Mae CPD Wrecsam wedi gwneud datganiad wedi i un o’u chwaraewyr rannu llun o’i esgidiau pêl-droed gyda neges sarhaus tuag at y Ceidwadwyr arnynt.
Fe wnaeth yr ymosodwr Paul Mullin rannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol o’i esgidiau pêl-droed gyda’r neges F*** the Tories arnynt, gyda’r llun wedi ei dynnu ar y Cae Ras.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb fod y lluniau wedi eu tynnu “heb yn wybod iddynt na’u caniatad.
“Ni fyddai’r lluniau wedi cael eu tynnu pe bai’r clwb yn gwybod, a byddwn yn delio â’r mater yn breifat.”
Mae’r datganiad yn mynd ymlaen i ddweud eu bod yn cydnabod fod “pawb yn rhydd i’w barn, boed yn weithwyr neu’n gefnogwyr, ond rydym ni’n pwysleisio hefyd nad oes modd cysylltu safbwynt un unigolyn gyda safbwynt pawb neu’r clwb ei hun.”
Maent hefyd yn cyfeirio at y ffaith mai Aelod Seneddol Ceidwadol sydd yn cynrychioli Wrecsam.
Fe gafodd Paul Mullin ei enwi fel chwaraewr gorau y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf wedi iddo sgorio 32 gôl i’r clwb.
Dywed y clwb fod y “ffocws yn parhau ar ein nod i gael dyrchafiad a chreu manteision i’n cymuned ni, a bydd Paul Mullin yn parhau i chwarae rhan arwyddocaol yn hyn.”