'Trwsio camgymeriadau' Liz Truss yw'r flaenoriaeth medd Rishi Sunak
'Trwsio camgymeriadau' Liz Truss yw'r flaenoriaeth medd Rishi Sunak
Mae Rishi Sunak wedi ei gadarnhau yn brif weinidog newydd y Deyrnas Unedig ar ôl cyfarfod â'r Brenin Charles III fore Mawrth.
Mewn araith y tu allan i Rif 10 Downing Street, rhoddodd deyrnged i'w ragflaenydd Liz Truss, gan ddweud nad oedd ei hawydd i sicrhau twf yn yr economi yn anghywir, ond pwysleisiodd fod "rhai camgymeriadau wedi eu gwneud".
"Rwy'n benderfynol o drwsio'r camgymeriadau hynny", meddai.
"Ac mae'r gwaith hwnnw yn dechrau ar unwaith."
Cyfeiriodd at sefyllfa gythryblus yr economi gan ddweud "na fydd yn gadael y genhedlaeth nesaf gyda dyled yr oeddem ni yn rhy wan i'w thalu ein hunain".
Ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd ei lywodraeth yn "onest, proffesiynol ac atebol, ar bob lefel".
"Mae angen ennill ymddiriedaeth, a byddaf yn ennill hwnnw gennych chi, " meddai.
Am 9:00 y bore, fe wnaeth Liz Truss gadeirio cyfarfod y cabinet, cyn gwneud ei haraith olaf fel prif weinidog o flaen cynulleidfa y tu allan i Downing Street.
Dywedodd ei bod yn "anrhydedd enfawr" i fod yn brif weinidog gan ddweud bod ei llywodraeth hi wedi gweithredu "ar frys ac yn bendant" er mwyn helpu teuluoedd.
Ychwanegodd ei bod hi'n "credu ym mhobl Prydain, a dwi'n gwybod bod yna ddyddiau gwell i ddod".
Yna, fe wnaeth hi deithio i Balas Buckingham i gwrdd â'r Brenin Charles III er mwyn ildio'r awenau.
Yna fe wnaeth Rishi Sunak deithio i'r palas i gwrdd â'r Brenin.
Daw hyn wedi i Gadeirydd Pwyllgor 1922, sef y pwyllgor o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr, Syr Graham Brady, gyhoeddi ddydd Llun eu bod nhw wedi derbyn "un enwebiad dilys" i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol, sef Mr Sunak.
Fe wnaeth yr ymgeisydd arall, Penny Mordaunt, dynnu yn ôl o'r ras wedi iddi hawlio cefnogaeth gan 90 o ASau Ceidwadol. Roedd hyn 10 yn llai na'r 100 oedd eu hangen er mwyn aros yn y ras. Fe dderbyniodd Mr Sunak gefnogaeth gan bron i 200 o ASau Ceidwadol.
Teithiodd y Brenin Charles III yn ôl i Lundain brynhawn Llun, ac fe wnaeth gwrdd â'r cyn-brif weinidog, Liz Truss, ym Mhalas Buckingham fore Mawrth er mwyn derbyn ei hymddiswyddiad.
Rishi Sunak yw'r Prif Weinidog Cyntaf i dderbyn y rôl gan y Brenin newydd, Charles III.
Mae Mr Sunak eisoes wedi rhybuddio fod y Deyrnas Unedig yn wynebu cyfnod cythryblus yn economaidd.
Yn ei araith gyntaf ers ennill arweinyddiaeth y blaid Geidwadol ddydd Llun, dywedodd bod heriau economaidd dwfn ar y gorwel. Ychwanegodd ei bod yn "anrhydedd" i gael cefnogaeth ei gyd aelodau seneddol Ceidwadol a wnaeth ei ddewis yn arweinydd.