Newyddion S4C

'Dim yn gweld y ffeithiau cywir' yng nghyfres Netflix The Crown

22/10/2022

'Dim yn gweld y ffeithiau cywir' yng nghyfres Netflix The Crown

Ar drothwy darllediad cyfres newydd o The Crown, mae rhai enwogion wedi mynegi pryder dros gywirdeb hanesyddol y rhaglen boblogaidd. 

Mae'r gyfres newydd yn dilyn cyfnod gythryblus i'r teulu brenhinol yn ystod yr 1990au, lle daeth sawl sgandal i'r amlwg. 

Ond mae rhai yn dadlau nad ywr gyfres yn adlewyrchu y gwirionedd o'r hyn digwyddodd ar y pryd. 

Mae Syr John Major wedi beirniadu'r gyfres am gynnwys sgwrs rhwng y cyn-brif weinidog a'r Tywysog Charles ynglŷn â chynlluniau i annog y Frenhines i gamu o'r neilltu.

Yn ôl swyddfa Syr John, mae'r sgwrs yn "hollol ffug" a bod y gyfres yn seiliedig ar "sothach maleisus." 

Mae'r actores y Fonesig Judi Dench hefyd wedi ymuno â'r rhai sydd yn cwestiynu cynnwys y ddrama, gan alw'r gyfres yn "greulon".

Yn sgil y feirniadaeth, mae cynhyrchwyr Netflix wedi amddiffyn y gyfres gan ddweud ei bod yn "ddrama yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol" ac nid yn portreadu'r gwirionedd. 

Yn ôl Carwyn John, rhywun sydd wedi dilyn hanes y teulu ar gyfer cynhyrchu rhaglenni Brenhinol, mae'n amlwg "na fyddwn ni'n gweld y ffeithiau cywir" yn The Crown

"Dwi meddwl mae mynd i agor ambell focs oeddden nhw [y teulu Brenhinol] falle'n credu sydd wedi gallu rhoi ceuad arno fo," meddai. 

"Mae rhai cofio hefyd ni'n byw mewn oes lle mae'r digwyddiadau hanesyddol 'ma dal yn fyw ym meddyliau pobl." 

Yn ôl Carwyn, dylai Netflix wneud hi'n fwy amlwg i wylwyr bod y gyfres ond yn seiliedig ar hanes, ac nid yn hollol wir. 

"Dwi meddwl yn sicr bod hi'n bwysig bod nhw'n deud ar ddechrau pob pennod bod drama wedi'i ddramateiddio ydy hi ac nid ffeithiau moel," meddai.

"Mae pobl yn mynd i edrych ar y gyfres yma fel cyfres hanesyddol, ac nid dyna ydy hi."

Llun: Netflix 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.