Newyddion S4C

Tîm Cwpan y Byd

Cyhoeddi tîm cyflwyno S4C ar gyfer Cwpan y Byd

NS4C 21/10/2022

Mae S4C wedi cyhoeddi eu tîm cyflwyno ar gyfer Cwpan y Byd fydd yn dechrau mewn llai na mis. 

Bydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer yn arwain y tîm, gyda Sioned Dafydd yn gohebu o ochr y cae ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi'r cyfan. 

Nic Parry fydd yn y blwch sylwebu gyda chyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries, a wnaeth sgorio 18 gôl a chynrychioli ei gwlad 58 gwaith.

Dywedodd Dylan Ebenezer y byddai'r tîm cyflwyno yn "dod ag awyrgylch y stadiwm i ystafelloedd byw, tafarndai a chlybiau pêl-droed ledled Cymru. Beth bynnag sy’n digwydd, mi fyddwn ni’n gweld hanes yn cael ei greu yn fyw ar S4C."

Ychwanegodd Gwennan Harries ei bod hi'n "edrych ymlaen at fynd allan yna i weld Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth fwyaf y byd pêl-droed, a gobeithio gweld perfformiadau byddwn ni’n cofio am flynyddoedd a degawdau i ddod."

Bydd rhagor o aelodau tîm Cwpan y Byd S4C yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau i ddod. 

Bydd S4C yn dangos pob gêm Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.