Teulu o Wynedd yn symud i fyw wedi 'bwlio cymunedol' o achos anabledd

Teulu o Wynedd yn symud i fyw wedi 'bwlio cymunedol' o achos anabledd
Mae dyn o Wynedd yn dweud fod ei deulu wedi dioddef “bwlio cymunedol” ar sail anabledd ei wraig.
Mae'r cwpwl sydd yn eu pedwardegau yn dweud eu bod nhw a’u plant wedi symud i ardal arall, ar ôl tair blynedd o gasineb.
Penllanw'r cyfan oedd ymosodiad corfforol ar y dyn, ac ymgais i'w daro gyda char.
Dywedodd Neil a Mandy – nid eu henwau go iawn – fod y casineb wedi dechrau yn fuan ar ôl iddyn nhw symud i mewn i’r tŷ.
“Pan symudon ni yno, fe ddechreuodd cymydog o’r tŷ drws nesaf ofyn cwestiynau am yr anabledd, ac am y sefyllfa,” meddai Neil.
“I gychwyn roeddwn ni’n meddwl bod popeth yn iawn, ond fe wnaethon nhw barhau a pharhau, a’r mwya’ ddywedon ni, y mwya’ o gasineb gafodd ei sbarduno."
'Methu mynd yn ôl i'r ardal'
Fe ddechreuodd y bwlio gyda galw enwau a chwynion am barcio ger y tŷ, meddai'r cwpwl. Pan gafodd lle parcio ei osod ar gyfer y tŷ, fe waethygodd y casineb.
“Fe drodd y peth yn fwlio cymunedol. Roedd un person yn lledaenu casineb ac yn troi pawb yn ein herbyn ni fel teulu,” meddai.
“Des i’n agos at dorri lawr. Bu’n rhaid i ni gael cymorth i’r plant, hefyd.
“Rydyn ni’n dal i feddwl am y peth. Gallwn ni ddim mynd yn ôl i’r ardal – bob tro ry’n ni’n mynd heibio yn y car, mae’r un bach yn crio – mae'n dweud, ‘dw i ddim eisiau mynd y ffordd yna’.
“Rydyn ni’n hapus nawr, ‘dyn ni’n iawn. Ond fe wnaeth y profiad gael effaith go iawn arnom ni.”
Fe gafodd dros 3,000 o droseddau casineb eu cyfeirio at elusen Victim Support yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022.
Mae eu ffigyrau’n dangos cynnydd o 16% mewn troseddau casineb ar sail anabledd o flwyddyn i flwyddyn.
Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref ar gyfer yr un cyfnod yn dangos mai hil oedd y cymhelliant mwyaf ar gyfer troseddau casineb yn gyffredinol.
Ond yng Nghymru a Lloegr, roedd cynnydd o 43% mewn achosion yn ymwneud ag anabledd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ynghyd â chynnydd o 26% yn y cyfanswm o droseddau casineb gafodd eu cofnodi.
Yng Ngwynedd, dywedodd Neil fod yna gymorth ar gael i bobl sydd wedi dioddef fel ei deulu e.
“Mae’n rhaid i chi alw’r heddlu mor gynted â phosib – mae hynny’n bwysig. Os nad ydych chi’n dymuno galw’r heddlu, fe allwch chi alw Victim Support," meddai.
“Mae e’n anodd. Dyw e ddim yn hawdd. Ond ar ddiwedd y dydd, gallwch chi ddim byw bywyd tra’n cael eich targedu a’ch bwlio.”