Newyddion S4C

Guto Bebb: 'Ddim yn realistig' i Boris Johnson ddod yn brif weinidog

Y Byd yn ei Le 20/10/2022

Guto Bebb: 'Ddim yn realistig' i Boris Johnson ddod yn brif weinidog

'Dyw hi ddim yn "realistig" i Boris Johnson ddychwelyd i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol a phrif weinidog am yr eildro, yn ôl cyn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy. 

Mae disgwyl y bydd prif weinidog newydd wedi ei ethol gan ASau erbyn wythnos i ddydd Gwener, yn dilyn ymddiswyddiad Liz Truss ddydd Iau. 

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le, fe ddywedodd Guto Bebb: ''Dw i ddim yn credu ei bod hi'n realistig (i Boris Johnson ddychwelyd), oherwydd does 'na ddim ond tri mis ers i fwyafrif helaeth ei weinidogion o ymddiswyddo achos nad oedden nhw eisiau ei wasanaethu fo ddim mwy.

"Felly mae'r syniad bod modd i Boris Johnson ddod yn ôl i arwain plaid seneddol oedd wedi ei wrthod o mor wirioneddol amlwg a chyhoeddus ag y gwnaethwyd - mae'r syniad y galla fo ddod yn ôl yn un od iawn."

Ychwanegodd Mr Bebb: "Dydy'r achos seneddol i mewn i'r cwestiynau ynghylch gonestrwydd Boris Johnson ddim wedi cychwyn hyd yma, ac felly mae'r peryg iddo gael ei ddiarddel o'r tŷ yn dal i fodoli, felly mae'r syniad fod gennyn ni botensial o brif weinidog o'r enw Boris Johnson yn dod yn ôl ac wedyn yn cael ei ddiarddel o Dŷ'r Cyffredin - mae'r sefyllfa yna tu hwnt i amgyffred dyn.

"Fyswn i'n tybio efallai mai Rishi Sunak efallai gaiff y cyfle, ond mae hynny'n golygu y bydd rhaid i'r Blaid Geidwadol yn seneddol sicrhau nad ydy'r dewis yn mynd i'r aelodaeth."

Y Byd yn ei Le: Rhaglen estynedig am 21:00 ar S4C, nos Iau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.