Newyddion S4C

Galw am roi gweddill cyllideb gwasanaeth newyddion Corgi Cymru i Golwg 360

20/10/2022

Galw am roi gweddill cyllideb gwasanaeth newyddion Corgi Cymru i Golwg 360

Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw am fwy o gyllideb i wefan newyddion Golwg 360.

Daw hyn yn sgil penderfyniad y Cyngor Llyfrau Cymru i ddod a gwasanaeth digidol Corgi Cymru i ben.

Fe benderfynodd y Cyngor Llyfrau i ddirwyn y cytundeb ariannol gyda Corgi Cymru i ben "ar ôl dwys ystyried a thrafod gofalus."

Mae Dyfodol i'r Iaith yn galw ar y Cyngor Llyfrau i drosglwyddo'r cyllid oedd ar gael i Corgi Cymru i Golwg 360.

Cyn i wasanaeth Corgi Cymru ddod i fodolaeth, roedd Golwg yn derbyn £200,000 y flwyddyn ar gyfer eu gwasanaethau newyddion.

Fe roddodd y Cyngor Llyfrau £100,000 i sefydlu i Corgi Cymru, oedd yn golygu bod yr arian oedd yn mynd i Golwg360 yn cael ei haneru.

Mewn datganiad, dywedodd Dyfodol i'r Iaith: "Mae’n syndod fod Golwg 360 wedi llwyddo i gynnal cystal gwasanaeth ar ôl colli hanner eu cyllid, ond ein gobaith bellach yw y gall y cwmni ddatblygu eu gwasanaeth ymhellach wrth gael y £100,000 ychwanegol yn ôl."

Ychwanegodd Prif Weithredwr y mudiad, Eifion Lloyd Jones: “Nid trwy daenu’r cyllid yn denau dros ddwy wefan wahanol yn cyflwyno’r un prif newyddion yn unig y mae gwasanaethu’r Gymru Gymraeg orau, ond trwy roi cyllid digonol i’r cwmni sydd wedi profi eu gallu i gynnal gwasanaeth o’r fath yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd bellach.  

"Credwn fod Golwg 360 yn haeddu pob cefnogaeth i gamu ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.”

Mewn ymateb, dywedodd y Cyngor Llyfrau wrth Newyddion S4C: "Mae’r grant ar gyfer y Gwasanaeth Newyddion Digidol Gymraeg yn arian cyhoeddus a bydd rhaid i’r arian gael ei ddyfarnu trwy broses dendro agored, ffurfiol. 

"Bydd y broses ymgeisio am yr arian yn cael ei chyhoeddi yn fuan a bydd croeso i Golwg gyflwyno cais."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.