
Galw am godi ymwybyddiaeth o’r menopos ymhlith pawb

Galw am godi ymwybyddiaeth o’r menopos ymhlith pawb
A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth o’r menopos, mae yna alwadau i sichrau fod dynion a phobl ifanc yn ymwybodol o'r symptomau.
Yn ôl y gantores a’r cyflwynydd Emma Walford roedd profi rhai o’r symptomau heb wybod mai’r menopos oedd yn gyfrifol yn brofiad “brawychus.”
“Dwi’n meddwl bo ‘na arferiad di bod – ‘jiw cwpl o hot flushes a fyddi di’n fine’.
“Neu – ‘ni’n ferched ni’n tough, naw ni ddod trwyddi.’ Ond i rhai ferched mae o jyst yn ddinistriol.”
Ers 2021 mae Emma Walford wedi bod yn derbyn triniaeth hormonau HRT.
Ar ôl gorfod troi at y we i gael gwybodaeth, mae hi'n galw am addysgu menywod, dynion a phobl ifanc am y menopos er mwyn deall y sefyllfa.
“Cyn mynd at y doctor mae unrhyw beth dwi di dysgu am y menopos a’r perimenopos, ma’ hwnna wedi dod oddi ar y we – yn sicr ar y cyfryngau cymdeithasol.
"O’n i ddim yn cysgu’n dda. Nath yng nghroen i newid. O’n i di dechrau magu pwyse. Ond be nath rili taro fi odd yn feddyliol."
"O’n i’n orbryderus yn ofnadwy. A’r peth mwyaf odd brain fog. Jyst y niwl yma yn y pen. Felly dyna odd y symptomau nath neud fi feddwl ma’ raid fi ffigro allan be sy’n bod.
"O'n i ddim yn ymwybodol ohono fo o gwbl. A dwi'n meddwl ma' dyna pam nath y symptomau ddechrau. Dyna pam odd o mor frawychus. Achos o'n i ddim yn gwybod be odd yn digwydd, a dwi'n meddwl ma' dyna di'r pwynt rŵan ma' raid siarad amdano fo."
'Siwrne'
Pan ddechreuodd Alison Parsons o Abergwili, ger Caerfyrddin brofi symptomau, doedd hi ddim yn ymwybodol mai'r perimenopos oedd ganddi.
“Odd hwn yn flinder mawr, o’n i methu symud ambell i ddiwrnod," meddai.

“Dechreuais i gael symptomau yn gymharol ifanc a ddim yn sylwi mai perimenopos oedd e.
“O’n i ddim yn gwybod rhyw lawer am y menopos ar y pryd, rhywun yn gwaith roddodd lyfr i fi, ac wrth i weld e odd ‘na restr o bethau gallai fod yn gysylltiedig ac o’n i’n mynd tic, tic, tic."
Yn y pendraw penderfynodd Alison fynd i weld meddyg yn breifat gan dderbyn triniaeth hormonau HRT ac ers hynny mae’r driniaeth wedi ei haddasu ar ei chyfer.
“O fewn pythefnos o’n i’n teimlo fel person hollol wahanol – nol fel o’n i’n arferol. Ond fi’n sylweddoli nad dyna sefyllfa pawb.
“Dwi’n teimlo fod e’n siwrne yn hytrach nag un peth sy’n digwydd ac wedyn chi’n cael rhywbeth i wella fe.”
Yn ôl Rhwydwaith Menopos Cymru, mae gormod o fenywod yn dioddef yn ddiangen oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o’r menopos, stigma yn y gweithle a thriniaeth anghyson o ganlyniad i ddiffyg darpariaeth menopos a ariennir yn briodol yng Nghymru.
Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal dros y penwythnos i fynd i’r afael â chamsyniadau ynghylch y menopos.
Y digwyddiad yng Nghasnewydd yw’r gynhadledd fwyaf o’i bath yng Nghymru ac mae pob tocyn wedi'i werthu.
Mewn ymateb dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, nad yw'n credu fod gwasanaethau yn ddigon cyson: "A dyna'r broblem - dwi'n meddwl bod rhai menywod yn cael triniaeth arbennig a rhai eraill yn gorfod mynd nôl eto ac eto, cyn cael y driniaeth."