Cyhuddo Llywodraeth y DU o 'gipio pwerau' datganoledig Senedd Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o ddefnyddio deddfwriaeth newydd i geisio "cipio pwerau" datganoledig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gall y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) alluogi i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli heb gydsyniad y Senedd.
Cafodd y bil ei gyhoeddi yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau.
Pwrpas y bil yw cael gwared â chyfreithiau o fewn system y DU sydd yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd.
Ond, mae Llywodraeth Cymru yn honni y gall y bil rhoi grym i San Steffan ddiddymu cyfreithiau o fewn meysydd sydd bellach wed'i'u datganoli.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, gall cyfreithiau ac amddiffyniadau allweddol ddiflannu o system gyfreithiol Cymru heb gytundeb y Senedd erbyn diwedd 2023.
Mae'r Cwnsler Cyffredin, Mick Antoniw, bellach wedi ysgrifennu at Jacob Rees-Mogg, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, er mwyn mynegi pryderon dros y ddeddfwriaeth newydd.
"Fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd, gallai'r ddeddfwriaeth hon olygu bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael awdurdod dilyffethair i ddeddfu mewn meysydd datganoledig – a hynny’n groes i'r setliad datganoli a sefydlwyd yn ddemocrataidd," meddai Mr Antoniw, sydd hefyd yn Weinidog y Cyfansoddiad.
"Mae hefyd yn peri risg o ostwng safonau mewn meysydd pwysig gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a'r amgylchedd."
"Rydym yn siomedig bod y Bil wedi cyrraedd y cam hwn gyda chyn lleied o drafod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i agweddau pwysicaf, ac rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau'r newidiadau deddfwriaethol a fydd yn sicrhau bod statws cyfansoddiadol a setliad datganoli Cymru yn cael eu parchu a'u cadw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i barchu'r gwledydd datganoledig a byddwn bob tro yn ceisio am ganiatâd cyfreithiol o'r Senedd.
"Rydym yn deall pwysigrwydd o sicrhau bod y bil yn gweithio i bob rhan o'r DU. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymry trwy'r broses o basio'r bil trwy San Steffan, fel yr oeddem cyn inni gyflwyno'r bil."