Newyddion S4C

Ofn a dryswch yn Rwsia wrth i ddynion geisio osgoi'r fyddin

23/09/2022
Rwsia

Mae adroddiadau fod nifer sylweddol o ddynion o oed ymladd yn ceisio gadael Rwsia er mwyn osgoi cael eu galw i'r fyddin.

Mewn ymgais i chwyddo maint ei luoedd arfog yn Wcráin, mae'r Arlywydd Putin wedi gorchymyn bod dynion ifanc a dynion sydd â phrofiad milwrol i ymuno yn y brwydro.

O ganlyniad mae miloedd o ddynion wedi ceisio gadael y wlad i osgoi hyn, gyda rhai yn ceisio ffoi i'r Ffindir, ac eraill i Georgia.

Mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn danos nifer fawr o ddynion oed ymladd yn cael eu drafftio i'r fyddin yn rhai o ranbarthau mwy anghysbell Rwsia yn y dwyrain.

Mae'n bosib fod awdurdodau'r wlad yn dewis dynion o'r ardaloedd hyn yn gyntaf am resymau gwleidyddol, er mwyn osgoi protestiadau yn ninasoedd mwyaf poblog a dylanwadol Rwsia fel Moscow a St Petersburg, sef dinas enedigol Vladimir Putin.

'Refferenda'

Yn y cyfamser mae ymgyrchu wedi dechrau mewn pedair ardal o Wcráin sydd dan reolaeth lluoedd Rwsia. Bwriad y 'refferenda' yw gofyn os yw pobl rhanbarthau Luhansk, Donetsk, Kherson a Zaporizhzhia am gael eu rheoli'n uniongyrchol o Moscow.

Mae'r gymuned ryngwladol wedi beirniadu'r broses, gan ei disgrifio fel ymdrech bellach gan Rwsia i geisio hawlio tir Wcráin yn anghyfreithlon.

Petai'r rhanbarthau yn pleidleisio o blaid dod o dan reolaeth Moscow, fe allai hyn alluogi Rwsia i ddadlau fod ei thiriogaeth ei hun dan ymosodiad mewn unrhyw frwydro gyda lluoedd Wcráin.

Wrth ymateb i'r cynllun diweddaraf i gynyddu maint lluoedd arfog Rwsia, dywedodd Arlywydd Volodymyr Zelensky o Wcráin: "Mae penderfyniad Rwsia ynghylch y cynllun hwn yn gyfaddefiad di-flewyn ar dafod nad oedd eu byddin reolaidd, sydd wedi bod yn barod ers degawdau i feddiannu gwlad dramor, yn gadarn ac yn dadfeilio.

"Nawr, oherwydd y cynllun yma, nid rhywbeth ar y teledu nac ar y rhyngrwyd yw rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin i'r mwyafrif o ddinasyddion Rwsia bellach, ond rhywbeth sydd wedi dod i mewn i bob cartref yn y wlad".

Mae'r awdurdodau yn Rwsia yn gwadu fod dynion yn ffoi o'r wlad i osgoi cael eu galw i'r fyddin.

Llun: Twitter 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.