Codi cyfraddau llog i 2.25% wrth i'r economi fynd i ddirwasgiad
Codi cyfraddau llog i 2.25% wrth i'r economi fynd i ddirwasgiad
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi fod cyfraddau llog wedi eu codi i 2.25%.
Dyma'r lefel uchaf ers mis Tachwedd 2008 ar adeg y dirwasgiad economaidd.
Mae'n gynnydd o 0.5 pwynt canran ers mis Awst pan oedd y gyfradd yn 1.75%
Dywedodd y Banc hefyd fod economi Prydain bellach mewn cyfnod o ddirwasgiad.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae prisiau yn y DU wedi codi - chwyddiant yw'r term am fesur cyflymder y cynnydd hwn.
Mae prisiau nwyddau a gwasanaethau wedi codi 9.9% o gymharu â blwyddyn yn ôl, sy'n uwch na'r targed o 2%.
Mewn datblygiad arall, mae Llywodraeth y DU wedi gwyrdroi'r cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol, gyda'r newid yn dod i rym o 6 Tachwedd, meddai’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng.
Benthyciadau
Er mwyn mynd i'r afael â chwyddiant uchel, mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog, sy'n golygu bod yn rhaid i bobl dalu mwy o arian yn ôl i'r banc os ydyn nhw'n benthyg.
Mae Banc Lloegr yn dweud eu bod yn disgwyl i lefelau chwyddiant godi ymhellach am weddill y flwyddyn cyn dechrau arafu'r flwyddyn nesaf.
Ymhen dwy flynedd, mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd lefelau chwyddiant yn agosach at y targed o 2%.
Maen nhw'n dweud fod hynny yn bennaf gan nad oes disgwyl y bydd y prif resymau dros chwyddiant uchel yn parhau yn yr hirdymor.
Ond mae'r Banc yn rhybuddio y gallai prisiau rhai pethau aros ar lefel uchel o'i gymharu â'r gorffenol.
Daw hyn ar drothwy cyllideb frys ddydd Gwener lle mae disgwyl i'r Canghellor Kwasi Kwarteng gyhoeddi mesurau pellach i helpu gyda'r argyfwng costau byw.
Yn ôl Banc Lloegr, roedd pum aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol y Banc o blaid y cynnig, gyda thri aelod am weld cynnydd o 0.75 pwynt canran i 2.5%.
Roedd yr aelod arall am weld cynnydd llai gan awgrymu cyfradd llog o 2%.