Newyddion S4C

Lluoedd Rwsia wedi ryddhau pum carcharor rhyfel o Brydain yn Wcráin

22/09/2022
S4C

Mae pum carcharor rhyfel o Brydain wedi cael eu rhyddhau'n ddiogel gan luoedd Rwsia yn nwyrain Wcráin.

Ymhlith y pump mae tri wedi’u hadnabod fel Aiden Aslin, John Harding a Shaun Pinner, a gafodd eu carcharu ym mis Ebrill.

Mewn neges bersonol a recordiwyd ar eu ffordd adref, diolchodd Mr Aslin a Mr Pinner i'r rhai a oedd wedi gweithio i'w rhyddhau.

“Rydyn ni nawr allan o’r perygl ac ar ein ffordd adref at ein teuluoedd,” meddai Mr Aslin.

Parhaodd Mr Aslin: "Rydym eisiau i bawb wybod y newyddion da. Diolch i bawb sydd wedi bod yn gefnogol. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr."

Mae'r Prif Weinidog, Liz Truss, wedi dweud bod hyn yn "ddiwedd ar fisoedd o ansicrwydd a dioddefaint iddyn nhw a'u teuluoedd".

Cafodd y pump eu rhyddhau yn dilyn proses o gyfnewid carcharorion, gyda 215 o filwyr Wcráin yn cael eu rhyddhau.

Fel rhan o’r cyfnewid, fe wnaeth Wcráin drosglwyddo 55 o filwyr Rwsiaidd, yn ogystal â milwyr o wleidydd sy'n gefnogol o Rwsia.

Fe ddiolchodd Ms Truss i Arlywydd Wcráin, Volodomyr Zelensky, am ei gymorth wrth sicrhau rhyddhad y carcharorion, ac i Saudi Arabia am eu cymorth.

Ychwanegodd bod yn rhaid i Rwsia beidio â chymryd mantais o garcharorion rhyfel am resymau gwleidyddol.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly, fod ei feddyliau'n parhau i fod gyda theulu Paul Urey, carcharor fu farw yn ystod ei gyfnod yno.

Llun: Cossackgundi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.