Gwobr o £200,000 am wybodaeth am lofrudd Olivia Pratt-Korbel
Mae gwobr o £200,000, y wobr uchaf erioed, am unrhyw wybodaeth sy'n arwain at y sawl sy'n gyfrifol am farwolaeth Olivia Pratt-Korbel.
Bu farw'r ferch naw oed yn ei chartref yn ardal Dovecot o ddinas Lerpwl ar 22 Awst.
Cafodd ei saethu yn ei brest gan saethwr ac fe gafodd ei mam Cheryl hefyd ei saethu yn ei harddwrn wrth iddi geisio achub ei merch.
Wythnos diwethaf fe wnaeth yr elusen gynnig £50,000 a gafodd ei gyfrannu gan gadeirydd yr elusen, Yr Arglwydd Ashcroft.
Dywedodd Yr Arglwydd Ashcroft, sylfaenydd a Chadeirydd Crimestoppers: “Mae’r achos hwn wedi bod yn hynod o ysgytwol, nid yn unig i’r rhai sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol, ond hefyd i Lerpwl a’r genedl gyfan.
“Gyda chefnogaeth rhoddwr preifat, y gall Crimestoppers nawr gynnig y swm uchaf erioed o £200,000 ar gyfer gwybodaeth i ddal llofrudd Olivia.”
Mae Crimestoppers yn elusen sy'n annibynnol o'r heddlu ond yn cefnogi'r ymchwiliad drwy gynnig y wobr ariannol.
Mae Heddlu Glannau Mersi yn parhau i ymchwilio i'w marwolaeth, ac yn gofyn i bobl anfon unrhyw ddeunydd fideo a fedrai fod o gymorth i'r ymchwiliad.