Newyddion S4C

Rhyddhau dyn o'r carchar a gafodd ei gyhuddo ar fai o lofruddio ei gariad

The Washington Post 20/09/2022
adnan syed / hbo

Mae dyn a gafodd ei gyhuddo ar fai o lofruddio ei gariad wedi ei ryddhau o'r carchar yn Baltimore yn yr UDA.

Yn 2000, fe gafodd Adnan Syed ei ddedfrydu yn 17 oed i oes yn y carchar am lofruddio ei gariad, Hae Min Lee. Roedd Hae Min Lee wedi ei chrogi a'i chladdu mewn parc yn Baltimore yn 1999.

Fe wnaeth barnwr wrthdroi'r euogfarn ddydd Llun gan nodi fod yna ddau berson arall a fyddai wedi gallu bod yn gyfrifol am y lofruddiaeth.

Mae Mr Syed, sydd bellach yn 41 oed, wedi bod yn apelio yn erbyn ei euogfarn ers blynyddoedd. 

Dywedodd erlynwyr nad oeddent yn cadarnhau yn gyfan gwbl fod Mr Syed yn ddiniwed. Ond doedd ganddyn nhw ddim yr hyder yn "hygrededd yr euogfarn" ac o'r herwydd, fe wnaethon nhw argymell iddo gael ei ryddhau. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.