Newyddion S4C

Ystyried enw newydd i dref Picton yn Seland Newydd

19/09/2022
Syr Thomas Picton

Mae trafodaeth wedi cychwyn yn Seland Newydd ynglŷn a newid enw tref yn y wlad sydd wedi ei henwi ar ôl y ffigwr dadleuol, Syr Thomas Picton.

Roedd Syr Thomas Picton yn cael ei ystyried gan rai yn arwr ym mrwydr Waterloo. Ond roedd hefyd yn cael ei gysylltu â chamdriniaeth pobl ddu a chaethweision ar ynys Trinidad.

Fe wnaeth un o gynghorwyr tref Picton awgrymu bod angen newid yr enw yn 2020.  Mewn cyfweliad gyda gwefan newyddion stuff.co.nz mae David Oddie yn dweud bod rhai wedi "stopio siarad" ag o pan wnaeth o awgrymu'r newid i'r hen enw Te Weranga o Waitohi yn yr iaith Māori. 

Yn ôl yr hanesydd Mike Taylor, sydd wedi ysgrifennu am Syr Thomas Picton a chymuned Waitohi, mae yna gonsensws bod angen ail enwi'r dref. 

"Nid dim ond Māori sydd eisiau newid, ond pobl o'r gymuned i gyd.

"Wrth siarad gyda phobl sydd wedi siarad gydag eraill am newid, mae'r rhan fwyaf yn cefnogi newid yr enw. Mae hyd yn oed yr ysgolion dwi wedi cysylltu â nhw yn symud i'r cyfeiriad yna," meddai wrth wefan stuff.co.nz.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.