Disgwyl y cynnydd uchaf mewn cyfraddau llog ers 25 mlynedd yr wythnos hon

Mae disgwyl i Fanc Lloegr gyhoeddi'r cynnydd uchaf mewn cyfraddau llog ers 25 mlynedd yr wythnos hon.
Yn ôl economegwyr gallai'r cynnydd fod o leiaf 0.5 pwynt canran yn uwch na'r 1.75% presennol.
Mae’r Canghellor Kwasi Kwarteng yn cyhoeddi cyllideb frys ddydd Gwener ac mae disgwyl i Fanc Lloegr wneud cyhoeddiad ddydd Iau.
Bydd unrhyw gynnydd mewn cyfraddau yn golygu talu mwy ar fenthyciadau a fydd yn ergyd i bobl sy’n talu morgeisi.
Darllenwch fwy yma.