Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Aberafan
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 50 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot nos Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 32 oed “mewn cyflwr difrifol” yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Fictoria yn ardal Sandfields y dref.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i fwa croes yno.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Raikes: “Ryw’n deall fod pryder yn y gymuned – hoffwn dawelu meddyliau pobl fod gennym un person yn y ddalfa ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall. Rydym yn credu fod y ddau ddyn yn nabod ei gilydd ac rydym yn parhau i ymchwilio."
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 2200316538.
Llun: Google