Dros 10,000 o bobl yn llofnodi deiseb yn erbyn canolfan ddata ar lan y Fenai

Dros 10,000 o bobl yn llofnodi deiseb yn erbyn canolfan ddata ar lan y Fenai

Mae dros 10,000 o bobl wedi wedi llofnodi deiseb yn erbyn cynllun i ddatblygu canolfan ddata fawr rhwng y Felinheli a Chaernarfon ar lan y Fenai.

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth Newyddion S4C gyhoeddi'r lluniau cyntaf o ddyluniad Canolfan Ddata Menai, sydd wedi ei gyflwyno gan gwmni Gwelyfenai Ltd.

Mae'r ddeiseb yn codi pryderon am effaith amgylcheddol y datblygiad ar y Fenai, defnydd y ganolfan o ddŵr a thrydan, a'r effaith ar fywyd gwyllt ac ecosystemau lleol petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio.

Mae'r cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar y cynllun yn dod i ben ar 22 Medi, ac mae cyfarfodydd wedi eu trefnu i drafod y cais yng Nghaernarfon ac yn Nwyran, ar Ynys Môn, dros y penwythnos.

Mae'r datblygwyr wedi ymateb i bryderon am y datblygiad gan ddweud na fydd "yn tynnu dŵr o’r Fenai" ac mai'r "unig ddŵr a fydd yn cael ei ollwng i’r Fenai fydd dŵr glaw heb ei halogi". 

Uwch na Thŵr Marcwis

Fe fyddai'r safle ar ffurf campws yn cynnwys pump o adeiladau mawr petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.

Byddai'r holl safle yn mesur 41 hectar - sydd yr un faint a 57 o gaeau pêl-droed - ac fe fyddai'r adeilad uchaf yno dros 30 metr o uchder, tri metr yn uwch na Thŵr Marcwis dros y Fenai ar Ynys Môn.

Byddai angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd ar y ganolfan, yn ôl Gwelyfenai Ltd.

Dywed y datblygwyr fod y cynllun yn cynnig cyfle i greu swyddi da yn lleol, a bod unrhyw bryderon amgylcheddol wedi eu hateb mewn Asesiad Effaith Amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu i Gyngor Gwynedd ddydd Gwener diwethaf.

Image
menai
Dyluniad o drawstoriad o un o'r adeiladau ar y safle (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Ymateb

Wrth ymateb i'r ddeiseb, dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai wrth Newyddion S4C ddydd Gwener eu bod yn "cydnabod y diddordeb mawr yn y cynigion hyn ac mae’n iawn bod pobl leol yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau a mynegi eu barn". 

“Rydym am sicrhau bod y drafodaeth honno’n seiliedig ar wybodaeth gywir am y datblygiad ac am y mesurau sy’n cael eu cynnig i leihau ei effaith," medden nhw.

“Mae nifer o’r pryderon sy’n cael eu codi eisoes wedi cael sylw drwy’r Datganiad Amgylcheddol a’n gwaith ymgysylltu parhaus. Ni fydd y datblygiad yn tynnu dŵr o’r Fenai. 

“Yr unig ddŵr a fydd yn cael ei ollwng i’r Fenai fydd dŵr glaw heb ei halogi a gesglir drwy system ddraenio tir y safle.

“Y gofyniad dŵr dyddiol mwyaf tebygol yw tua 700,000 litr, sydd tua’r un faint â gwesty mawr. Bydd wyth hectar o’r safle yn cael eu neilltuo ar gyfer gwella ecolegol, tra bydd mesurau dylunio manwl a thirlunio yn ceisio lleihau effaith weledol yr hyn rydym yn cydnabod sy’n ddatblygiad sylweddol.

“Byddai’r cynigion hefyd yn sicrhau dyfodol hyfyw i hen safle diwydiannol segur sydd wedi parhau’n halogedig ac wedi’i ddefnyddio’n gyfyngedig ers blynyddoedd lawer. 

“Byddent yn ariannu’r gwaith adfer llawn, gan greu mwy na 900 o swyddi i drigolion Cymru ym mhob blwyddyn o’r cyfnod adeiladu ac o leiaf 200 o swyddi hirdymor unwaith y bydd y ganolfan yn weithredol."

Ymgynghoriad

Brynhawn dydd Iau, dywedodd Liz Saville-Roberts, aelod seneddol Plaid Cymru ar ran etholaeth Dwyfor-Meirionnydd ei bod wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn gofyn am ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y cynllun "er mwyn galluogi'r ymgysylltiad ehangaf posib".

"Mae hwn yn gynnig sylweddol ac, yn ddealladwy, mae wedi sbarduno amrywiaeth o farnau. 

"Hoffwn sicrhau bod cymaint o leisiau lleol â phosibl yn cael eu clywed yn briodol, a bod manteision posibl, pryderon ac goblygiadau amgylcheddol ehangach yn cael eu hystyried yn briodol," meddai.

"Mae'r rhai sy'n hyrwyddo'r cynnig yn tynnu sylw at y posibilrwydd o fuddsoddi yn yr ardal, adfywio safle halogedig sydd wedi bod yn wag ers amser maith, cyfleoedd posibl i greu swyddi, a'r cyfle i ddod â seilwaith technoleg i'r rhan hon o Gogledd Cymru."

Ychwanegodd: "Mae eraill wedi codi pryderon difrifol iawn ynghylch yr effaith amgylcheddol, y defnydd o ynni a dŵr, maint y safle a'r effaith weledol ar y dirwedd leol, y pwysau ar draffig ac isadeiledd, a'r graddau y byddai buddion cyflogaeth hirdymor yn cael eu teimlo'n lleol.

"Mae'n bwysig iawn bod y drafodaeth yn un wybodus, barchus ac yn seiliedig ar dystiolaeth. P'un a ydych yn cefnogi'r cynllun, yn ei wrthwynebu neu heb benderfynu eto, byddwn yn croesawu eich barn onest."

Wrth ymateb, dywedodd y datlygwyr wrth Newyddion S4C eu bod "wedi ymgysylltu â Liz Saville Roberts ac ystod eang o gynrychiolwyr a sefydliadau lleol, ac rydym wedi cysylltu â hi eto i gynnig rhagor o wybodaeth". 

“Rydym yn parhau â’n rhaglen o ymgysylltu â’r gymuned a byddwn yn darparu gwybodaeth i drigolion wrth i’r cais fynd rhagddo.”

Image
map Menai
Arwynebedd ardal y datblygiad (yn y bocs coch), gyda cheisiadau cynllunio eraill blaenorol gerllaw. Caernarfon sydd i'r de (Llun: Cyngor Gwynedd)

Llygredd

Mae safle hen ffatri Ferodo wedi ei lygru gan asbestos, ac mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r cynllun yn "sicrhau bod y safle’n cael ei lanhau’n drylwyr, a hynny drwy gyllid preifat." 

"Bydd hyn yn cynnwys cael gwared ar asbestos a halogiad arall yn ddiogel, yn unol â rheoliadau gwastraff peryglus. Bydd y gwaith yn mynd i’r afael â’r risgiau y mae’r safle’n eu peri ar hyn o bryd, heb roi unrhyw faich ariannol ar y cyngor na thrigolion lleol."

Image
Protest Canolfan Ddata
"Na i Ganolfan Ddata" 
(Llun: Tudalen Facebook DIM Canolfannau Data MENAI)

Wrth ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C ynglŷn a'i safbwynt ar ganolfannau data, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu mewn dull cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu canolfannau data. Rydym yn cydnabod bod canolfannau data yn ddwys o ran ynni. 

"Wrth i’r galw am seilwaith digidol dyfu, mae’n bwysig bod datblygiadau newydd yn defnyddio technolegau a dulliau sy’n lleihau’r defnydd o ynni ac adnoddau.

“Mae unrhyw ddatblygiad canolfan ddata arfaethedig yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r system gynllunio bresennol a’r rheoliadau amgylcheddol, gyda gwiriadau a chydbwyseddau cadarn ar waith i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol a chymunedol yn cael eu hystyried yn briodol cyn rhoi caniatâd."

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Cymru’n cael ei chydnabod fwyfwy fel lleoliad strategol ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i gefnogi’r economi ddigidol. 

"Mae gan fuddsoddiadau mewn canolfannau data y potensial i greu cyfleoedd economaidd newydd a chefnogi cyflogaeth fedrus. 

"Ond mae Llywodraeth Cymru yn credu bod rhaid i fusnesau, cymunedau ac economi ehangach Cymru deimlo manteision unrhyw fuddsoddiad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.