'Dros 100 o gŵn' wedi eu dwyn ar draws Cymru yn 2025
Fe gafodd dros 100 o gŵn eu dwyn ar draws Cymru yn 2025 yn ôl ffigyrau newydd.
Mae ystadegau gan gwmni Direct Line yn awgrymu fod tua 102 o gŵn wedi eu dwyn ledled Cymru y llynedd, sef tua dau gi yn cael ei ddwyn bob wythnos, neu un ci bob tridiau.
O'r rhai a gafodd eu dwyn, cafodd chwarter yn unig eu dychwelyd at eu perchennog.
Daw'r dadansoddiad fel rhan o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan Direct Line i bob llu heddlu yn y DU.
I Gymru, roedd y rhain yn cynnwys y pedwar llu heddlu sef Heddlu'r Gogledd, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru.
Mae ffigyrau heddlu ar draws y DU yn awgrymu fod pedwar o gŵn wedi eu dwyn bob diwrnod ar draws y DU y llynedd.
Mae hyn yn dod â'r cyfanswm o achosion o gŵn yn cael eu dwyn i tua 25,000 dros yr 11 mlynedd diwethaf.
Cŵn Tarw Ffrengig (French Bulldog) yw'r brîd sy'n cael ei ddwyn fwyaf aml, ond roedd yna gynnydd yn y nifer o gŵn Staffordshire Bull Terriers, Cŵn Defaid Defaid Almaenig a Dachshund a gafodd eu dwyn.
'Y broblem heb ddiflannu'
Mae arolwg gan Direct Line yn awgrymu fod hanner o berchnogion cŵn yn y DU yn poeni y bydd eu hanifail anwes yn cael ei ddwyn, gyda 33% yn dweud eu bod nhw yn mynd â'u ci am dro ar dennyn bob tro rhag ofn.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu fod 18% o berchnogion yn denfyddio camerâu diogelwch i gadw lladron draw.
Dywedodd Adam Burgin, pennaeth masnachu a chwsmeriaid gyda Direct Line: "Mae unrhyw ostyngiad yn y nifer o gŵn sy'n cael eu dwyn yn cael ei groesawu, ond mae'n bwysig i beidio â chymysgu niferoedd is gyda risg is.
"Roedd mwy na phedwar ci y dydd yn parhau i gael eu dwyn yn 2025 a gyda dros 25,000 o gŵn wedi'u cymryd yn yr 11 mlynedd diwethaf, mae'n amlwg nad yw'r broblem hon wedi diflannu."