A yw timau rygbi Cymru ar fin ymuno â chynghrair Lloegr?

Scarlets v Newcastle

Mae’r syniad o weld timau rygbi Cymru yn chwarae mewn cynghrair gyda chlybiau Lloegr wedi codi eto, gan greu cyffro mawr ymysg cefnogwyr.

Ond does dim trafodaethau ffurfiol ar y gweill, yn ôl uwch ffynonellau yn rygbi clybiau Lloegr.

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi dweud eu bod am edrych ar y posibilrwydd.

Ond mae penaethiaid y gêm yn Lloegr yn dweud mai ychwanegu dau glwb o Loegr at eu prif gynghrair yw eu blaenoriaeth ar hyn o bryd.

Felly beth fyddai angen digwydd, a beth fyddai hynny’n ei olygu i dimau Cymru?

Beth sydd wedi digwydd?

Yn ôl adroddiadau, cafodd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru wybod mewn cyfarfod ddydd Mercher fod URC yn bwriadu edrych a oes dyfodol posib i rai o ranbarthau Cymru yn uwch-gynghrair Lloegr.

Mae uwch ffynonellau yn y gêm yn Lloegr wedi cadarnhau bod diddordeb gan URC, ond maen nhw’n pwysleisio nad oes trafodaethau’n digwydd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prem Rugby, sy’n rhedeg prif gynghrair Lloegr, ac Undeb Rygbi Lloegr, yr RFU, eu bod yn canolbwyntio ar helpu clybiau o Loegr sydd am ymuno â’r gynghrair.

Image
Mae'r Gweilch newydd symud yn ôl i gae chwarae Sain Helen
Mae'r Gweilch newydd symud yn ôl i faes chwarae Sain Helen

Pam fod lle i ragor o dimau yn Lloegr?

Mae 10 tîm yn y Prem ar hyn o bryd, ar ôl i Wasps, Worcester a London Irish fynd i’r wal yn ystod tymor 2022–23.

Y nod dros dro yw ehangu’r gynghrair i 12 tîm erbyn tymor 2029–30, ac maen nhw’n gobeithio ychwanegu rhagor yn y dyfodol.

Ond mae’r ffordd o ymuno â’r gynghrair wedi newid. Ers dechrau tymor 2026–27, does dim system draddodiadol o godi a disgyn rhwng y ddwy adran uchaf.

Yn lle hynny, bydd rhaid i glybiau wneud cais. Bydd penderfyniad yn seiliedig ar nifer o bethau, gan gynnwys:

  • Safon y rygbi;
  • Cyllid y clwb a’r potensial i ddenu buddsoddiad;
  • Ei gyfleusterau;
  • A allai ei leoliad helpu i ehangu apêl y gynghrair.

Roedd yr amodau cychwynnol hefyd yn dweud y byddai angen i glwb chwarae tymor yn yr ail adran, y Champ, cyn cael ei ystyried.

A allai timau Cymru wneud cais?

Does dim llwybr wedi’i gytuno ar gyfer hynny.

Byddai angen i unrhyw glwb fodloni gofynion mynediad y Prem. Byddai angen caniatâd yr RFU hefyd, gan y byddai cynnwys timau o Gymru yn troi’r Prem yn gystadleuaeth drawsffiniol.

Mae penaethiaid y gêm yn Lloegr wedi dweud mai ar glybiau o Loegr maen nhw’n canolbwyntio ar hyn o bryd. 

Dydy hynny ddim yn gyfystyr â gwahardd timau Cymru am byth, ond does dim cynnig iddyn nhw ymuno ar y bwrdd.

Image
Caerdydd yn chwarae y Sharks yn yr URC
Caerdydd yn chwarae y Sharks yn yr URC

Beth am y gynghrair mae timau Cymru ynddi eisoes?

Mae’r Gweilch, Caerdydd, y Scarlets a’r Dreigiau yn chwarae yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, sy’n cael ei hadnabod fel yr URC.

Mae 16 tîm yn y gystadleuaeth, o Gymru, Iwerddon, yr Alban, yr Eidal a De Affrica. Mae Undeb Rygbi Cymru yn un o gyfranddalwyr y gynghrair.

Mae’r undeb wedi ymrwymo i ddarparu pedwar tîm tan ddiwedd tymor 2027–28. Mae’n dweud y bydd yn parhau i weithio gyda’r cyfranddalwyr eraill ar gynrychiolaeth Cymru yn y dyfodol.

Pam fod yr undeb yn ystyried newid?

Mae cadeirydd newydd URC, Lyndon Faulkner, wedi mynegi cefnogaeth i’r syniad o gystadleuaeth Eingl-Gymreig.

Mae’r undeb hefyd yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Roedd colled o £18 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, o’i gymharu â £7.2 miliwn y flwyddyn flaenorol, ac mae’n rhagweld colled debyg y flwyddyn nesaf.

Yn ôl yr undeb, mae hynny’n ategu ei ddadl nad yw cynnal pedwar tîm proffesiynol yn gynaliadwy bellach.

Mae ei brif swyddog cyllid, Gavin Marshall, wedi dweud mai £20 miliwn y gallai’r undeb ei wario ar rygbi proffesiynol, o’i gymharu â’r £26 miliwn mae’n ei gyfrannu ar hyn o bryd.

Image
Y Dregiau yn herio y Gweilch
Y Dregiau yn herio y Gweilch

A fyddai symud i Loegr yn datrys y problemau ariannol?

Nid yw hynny’n glir, a gallai ymuno fod yn ddrud.

Yn ôl yr adroddiad, mae gwerth cyfran ‘P’ yn y Prem tua £20 miliwn. Yn y bôn, mae hon yn gyfran sy’n rhoi hawl i glwb gael rhan o incwm canolog y gynghrair a phleidlais ar benderfyniadau.

Mae hefyd yn dod â gofyniad i ariannu Uwch Gynghrair Menywod Lloegr.

Fe allai hynny fod yn lletchwith i ranbarthau Cymru os ydyn nhw am ymuno, gan fod gan Gymru ei dim rygbi menywod ei hun sy’n cystadlu yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad bob blwyddyn.

Beth mae hyn yn ei olygu i’r cynllun i dorri un o dimau Cymru?

Mae hynny hefyd yn ansicr.

Mae’r undeb wedi dweud y bydd yn bwrw ymlaen â’i gynllun i leihau nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri erbyn 2028, gydag un drwydded yn y brifddinas, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

O dan y cynigion presennol, byddai Caerdydd a’r Dreigiau yn cadw eu lleoedd, gyda’r Gweilch a’r Scarlets yn cystadlu am y drwydded yn y gorllewin.

Mae uwchgynhadledd rygbi wedi’i threfnu ar gyfer mis Rhagfyr, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol yn haf 2027 ar ba dîm fydd yn colli ei le.

Ond mae Faulkner hefyd wedi addo adolygu’r cynnig i symud i dri thîm. Does dim eglurhad eto o sut y byddai unrhyw gystadleuaeth Eingl-Gymreig yn cyd-fynd â’r cynllun hwnnw.

Lluniau: Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.