Yvette Cooper i gyfarfod ag arweinwyr rhyngwladol i drafod Culfor Hormuz
Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi y bydd yr Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper yn cynnal cyfarfod o blith arweinwyr rhyngwladol gyda'r bwriad o geisio ailagor Culfor Hormuz - llwybr hanfodol i gludo olew sydd ar hyn o bryd yn cael ei rwystro gan Tehran.
Dywedodd Syr Keir Starmer: “Heddiw, gallaf gyhoeddi y bydd yr Ysgrifennydd Tramor yn cynnal cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon, a fydd yn dod â gwledydd at ei gilydd am y tro cyntaf, lle byddwn yn asesu pob cynllun diplomyddol a gwleidyddol, er mwyn sicrhau bod y llwybr yn glir unwaith eto, sicrhau diogelwch y llongau sydd wedi eu dal yn gaeth, ac ail ddechrau'r broses o symud nwyddau allweddol."
Ychwanegodd y bydd cynllunwyr milwrol yn dod at eil gilydd wedi'r cyfarfod er mwyn ystyried ffyrdd o gadw'r culfor yn glir wedi i'r ymladd ddod i ben.
Yn ei ddatganiad newyddion, addawodd Syr Keir Starmer na fyddai'r Deyrnas Unedig yn cael ei llusgo i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
“Rwy'n gwybod ei fod yn achosi pryder enfawr," meddai. “Mae bobl yn tanio eu teledu, yn gwylio eu sgriniau, yn gweld ffrwydradau, adeiladau yn cael eu chwalu.
“Maen nhw'n poeni y bydd y Deyrnas Unedig yn cael ei llusgo i hynny. Fyddwn ni ddim.”
Ychwanegodd nad oedd yn barod i ofyn i bobl Prydain i fynd drwy argyfwng unwaith yn rhagor, ac ail fyw cythrwfl ynni'r 1970au.
Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn ystyried cefnu ar Nato ar ôl i wledydd sy'n aelod ohono beidio ag ymuno â'i ryfel yn erbyn Iran.
Honnodd Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd nad oes gan y Deyrnas Unedig lynges ac nad yw eu hawyrennau yn "gweithio."
Awgrymodd Mr Trump nad oedd y Llynges Frenhinol yn barod ar gyfer gwrthdaro.
Wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr, dywedodd nad ei le fe oedd dweud wrth Brif Weinidog y DU beth i'w wneud.
“Gall wneud be bynnag a fynno. Yr oll mae Starmer ei eisiau yw melinau gwynt costus sy'n arwain at brisiau ynni eithriadol o uchel,” meddai.
