Rhybudd tywydd i ogledd Cymru dros benwythnos y Pasg

Rhybudd tywydd

Mae gogledd Cymru yn wynebu rhybudd tywydd melyn am wynt dros benwythnos y Pasg.

Mae’r rhybudd am wyntoedd “cryf iawn” yn berthnasol i Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, a Sir y Fflint.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod cyfnod o wyntoedd cryf iawn ar y ffordd rhwng 18.00 ddydd Sadwrn 4 Ebrill a 12.00 ddydd Sul 5 Ebrill.

Mae’n bosib y bydd hyrddiau o 50 i 60mya yn eithaf cyffredin, gyda 60 i 70mya mewn mannau mwy agored.

Mae yna risg o ddifrod ac aflonyddwch i deithio, medden nhw.

Er bod rhywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch union lwybr a chryfder y system, mae disgwyl gwyntoedd cryfion o’r gorllewin i’r de-orllewin ar draws Cymru nos Sadwrn ac i mewn i oriau cynnar Sul y Pasg.

Bydd y gwyntoedd yn llacio’n raddol yn hwyrach ymlaen yn y dydd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod oedi’n debygol ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, yn ogystal ag i wasanaethau awyr a fferi, gyda chanslo rhai gwasanaethau yn bosib.

Gallai cerbydau ochrau uchel wynebu oedi ar lwybrau a phontydd agored, ac mae siawns y gallai rhai ffyrdd a phontydd orfod cau.

Mae posiblrwydd hefyd y gallai toriadau pŵer ddigwydd, a hynny’n gallu effeithio ar wasanaethau eraill fel signal ffonau symudol.

Mae'r rhagolygon hefyd yn rhybuddio bod siawns fach o ddifrod i adeiladau, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.