Ystyried cynnig i greu ysgol Gymraeg o'r newydd yn Aberafan

Newyddion S4C

Ystyried cynnig i greu ysgol Gymraeg o'r newydd yn Aberafan

Mae swyddogion Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot yn argymell gwahanu dau safle sydd yn rhan o un ysgol Gymraeg ar hyn o bryd, er mwyn creu ail ysgol gwbl ar wahân.

Wyth mlynedd ar ôl agor campws Bro Dur ger Aberafan mae 'na fwriad rŵan iddi fod yn ysgol ar wahân, yn hytrach nag yn gysylltiedig ag Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Fe agorodd safle Bro Dur yn 2018, ac mae rhyw 500 o ddisgyblion uwchradd yn cael eu haddysg yno erbyn hyn.

Erbyn y ddegawd nesa', fodd bynnag, fe allai'r nifer hwnnw godi i dros 700.

Yn sgil y cynnydd, mae adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot yr wythnos nesa'n argymell gwahanu'r ddau safle'n ddwy ysgol gwbl ar wahân ym Medi 2028.

Mae hwnnw'n gam digon doeth, yn ôl Heini Gruffudd, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ehangu addysg Gymraeg ers degawdau, ac yn Gadeirydd Dyfodol i'r Iaith.

"Mae'r trefniant o gael yr ysgol wedi llwyddo, mae niferoedd y disgyblion yn cynyddu, ond erbyn hyn maen nhw wedi cynyddu digon i gael ysgol annibynnol a dyna'r ffordd ymlaen fel bod yr ysgol yn gallu datblygu ei phersonoliaeth ei hun. 

"Ond 'dan ni yn pryderu mai ysgol 11 i 16 fydd hi, nid ysgol 11 i 18. Achos mae angen i'r ysgol gael ei chweched dosbarth ei hun, fel arall mae'r plant yn gorfod mynd i Ystalyfera, teithio 18 milltir ac mae hynny'n rhy bell," meddai.

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Castell-nedd a Phort Talbot i ofyn am ymateb i'r union bwynt hwnnw.

'Sefyll ar ei phen ei hun'

Un sydd â chysylltiad â'r ddau safle ydy Cassius Walker-Hunt, sy'n rhedeg siop goffi yng nghanolfan siopa Aberafan.

Fe aeth ei chwiorydd i Fro Dur ag yntau i Ystalyfera:

"O'n i 'di mynd i Ystalyfera ac o'n i'n credu bod yr ysgol yn gallu gwneud hyn ers y flwyddyn gynta', ond dwi'n credu bod hi'n gallu sefyll ar ei phen ei hun."

Mae 'na arwyddion mai hynny yn y pen draw fydd yn digwydd, ond mi fydd sawl cam yn y broses eto. 

Os bydd y cabinet yn cymeradwyo dwy ysgol ar wahân - gan gefnogi'r argymhelliad, fe fydd na gyfnod o ymgynghori a hwnnw'n dod i ben ganol Rhagfyr. 

Fe allai Bro Dur ddod yn ysgol annibynnol yn 2028 felly - ddeng mlynedd ers i'r dysgu ddechrau yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.