'Cwymp syfrdanol' gofalwr o Lanelwy ar ôl dwyn £44,000 gan ddyn bregus iawn
Mae gofalwr o Lanelwy wedi ei garcharu am 26 mis ar ôl iddo ddwyn £44,000 gan ddyn bregus sydd ag anaf difrifol i'r ymennydd.
Roedd Gari Jones, 63 oed, wedi dwyn arian oedd yn cynnwys etifeddiaeth a gafodd y dioddefwr gan ei ddiweddar fam.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher fod y dioddefwr yn teimlo ei fod wedi cael ei "fradychu gan rywun yr oedd yn ymddiried ynddo".
O ganlyniad i'r twyll fe fethodd â thalu biliau hanfodol a chafodd ei ffôn ei ddatgysylltu.
Roedd yn wynebu'r posibilrwydd o orfod gwerthu ei fflat i dalu am ei ofal hefyd.
Clywodd y llys fod Jones wedi gwneud cais am 'Bwer Atwrnai Parhaol' ac wedi ceisio newid ewyllys y dioddefwr er mwyn cael hanner ei ystad, er bod hynny wedi'i atal.
Cyfrifon banc
Dywedodd Nicholas Williams ar ran yr erlyniad fod gorchmynion wedi'u rhoi ar gyfrifon banc Jones i'w atal rhag eu defnyddio.
Dywedodd Duncan Bould ar ran Jones ei fod wedi gwerthu ei garafán ac wedi tynnu arian o'i bensiwn a'i gyfrif ISA.
"Mae'n gwymp syfrdanol o safle o barch," ychwanegodd.
Dywedodd y Barnwr Simon Mills wrth Jones ei fod wedi bod mewn safle o ymddiriedaeth.
"Fe ddechreuoch chi yn fwyfwy i reoli ei faterion ariannol," meddai'r barnwr.
"Mae hwn yn anonestrwydd dybryd a gyflawnwyd yn erbyn person bregus iawn."
Dywedodd y Barnwr Mills y dylai Jones deimlo cywilydd am yr hyn a ddywedodd wrth swyddog prawf.
Roedd yn dangos "trahauster llwyr ar ben yr anonestrwydd," meddai.
Roedd Jones yn gwneud ymdrechion i ad-dalu'r arian ond dywedodd y barnwr: "Mae'r drosedd hon mor ddifrifol fel mai dim ond trwy weithredu'r ddedfryd ar unwaith y gellir sicrhau cosb ddigonol."
Bydd Gwrandawiad Enillion Trosedd yn cael ei gynnal maes o law.
