Ysgol ym Mhowys wedi derbyn ail fygythiad
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi diweddariad nos Fawrth am ddigwyddiad yn ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais, Powys ddydd Llun.
Roedd yr ysgol dan glo am gyfnod ddydd Llun ar gais yr heddlu ar ôl derbyn bygythiad dros y ffôn.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw gael galwad am 10.45 fore Llun i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais ar ôl y bygythiad.
Cadarnhaodd y llu bryd hynny nad oedd neb wedi’i anafu yn yr ysgol, a bod disgyblion ac athrawon yn ddiogel ac yn aros ar y safle am y tro.
Roedd yr ysgol ynghau ddydd Mawrth.
Nos Fawrth, cyhoeddodd yr heddlu eu bod yn gweithio'n agos â Chyngor Powys, gan nodi fod yr ysgol wedi derbyn ail fygythiad drwy E-bost.
Ychwanegodd y llu iddyn nhw dderbyn y wybodaeth honno nos Lun.
"Cafodd yr ysgol ei chau heddiw (Mawrth) wrth i ni barhau â'n hymchwiliad," meddai'r datganiad gan yr heddlu.
Wedi i'r amgylchiadau gael eu hadolygu, mae'r ysgol wedi penderfynu agor ddydd Mercher, yn ôl y llu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Gareth Grant: "Rydym yn deall fod hwn yn gyfnod pryderus i ddisgyblion yr ysgol, athrawon, rhieni a'r gymuned yn ehangach.
"Rydw i eisiau pwysleisio nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod bygythiad yn erbyn unrhyw ysgolion eraill neu fusnesau yn yr ardal leol.
"Bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal wrth i ni barhau â'n hymholiadau. Byddwn yn parhau i rannu mwy o wybodaeth cyn gynted ag y medrwn wneud hynny," meddai.