Ysbyty Glangwili: 1000 o apwyntiadau yn y fantol o achos asesiad risg tân

Ysbyty Glangwili

Mae penderfyniad i beidio a defnyddio rhannau o Ysbyty Glangwili ar ôl asesiad risg tân yn peryglu dros 1,000 o apwyntiadau cleifion, meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Penderfynodd y Bwrdd Iechyd ar 20 Chwefror i beidio â defnyddio rhannau o’u safle yn yr ysbyty yn Nghaerfyrddin oherwydd gofynion yr asesiad risg tân.

Maen nhw wedi cadarnhau cynllun i wario £20m er mwyn cydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi Tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar y safle.

Mae Ysbyty Glangwili yn safle sy’n heneiddio, ac roedd hynny’n creu “heriau”, meddai'r bwrdd iechyd wrth Newyddion S4C.

Mae’r penderfyniad yn effeithio ar Uned Llawfeddygaeth Ddydd a Theatr 6 yn Ysbyty Glangwili.

Mae wedi effeithio ar 14 o sesiynau llawfeddygol yr wythnos.

1,000 o apwyntiadau

Bydd yn cymryd 18 mis i ddatrys y broblem sy’n rhoi 1,040 o apwyntiadau mewn perygl, drwy osod lifft dianc rhag tân gwerth £7.5m yn yr ysbyty yn 2027.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd eu bod yn symud gwasanaethau i rannau eraill o Ysbyty Glangwili yn ogystal ag Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli er mwyn ceisio adennill y capasiti a gollwyd.

Yn eu cynllun blynyddol ar gyfer 2026/27, mae’r Bwrdd Iechyd yn dweud mai “diogelwch y cyhoedd yw’r ystyriaeth bennaf”.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithredu yn unol â’n rhwymedigaethau diogelwch tân statudol,” meddai’r adroddiad.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymateb gyda chynnig gwasanaeth cynhwysfawr i adfer cymaint o’r capasiti hwn â phosibl ar draws ystâd ehangach y theatrau.”

Mae’r adroddiad yn ychwanegu: “Mae’r datrysiad parhaol sef lifft tân gwerth tua £7.5m wedi’i drefnu ar gyfer 2027.

“Mae mesurau wrth gefn yn cael eu hasesu i ddarparu gwydnwch ychwanegol yn ystod y cyfnod o leiaf 18 mis pan fydd y capasiti yn llai.”

Mewn adroddiad ar wahân, mae’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch yn dweud eu bod yn “pryderu” ynglŷn â’r “nifer uchel o gamau gweithredu heb eu cymryd o ganlyniad i asesiadau risg tân”.

'Cymhlethdodau'

Fe gafodd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Hywel Dda ei gynnal ar ddydd Iau 26 Mawrth yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Yn y cyfarfod hwnnw, penderfynodd y bwrdd dderbyn y cynllun newydd.

Roedd y cynllun busnes yn argymell bod y bwrdd yn cefnogi rhaglen waith gwerth £20.9m, sy’n cynnwys y £7.5m ar gyfer y lifft tân.

Mae hyn er mwyn cydymffurfio â'r Hysbysiad Gorfodi Tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd ar waith yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Roedd cymhlethdod ychwanegol wedi cael ei greu oherwydd bod adeiladu’r lifft dianc rhag tân yn golygu symud uned Technoleg Gwybodaeth hanfodol.

Roedd yr angen i symud yr uned TG allan o ffordd y lifft newydd yn golygu gwario £2.6m ychwanegol, meddai'r bwrdd iechyd.

Dywedodd Hywel Dda wrth Newyddion S4C fod gorfod symud yr uned TG hefyd yn cynrychioli’r “senario waethaf posib”.

Yn y cyfarfod ar 26 Mawrth, dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Hywel Dda, ei fod yn “un o nifer o gymhlethdodau o ran y cynllun”.

“Felly, er mwyn gosod y ddihangfa dân fel y nodwyd, byddai angen symud yr uned TG oherwydd ei bod mor agos at y modiwl,” meddai.

“Mae hynny’n un o nifer o gymhlethdodau yn y rhan honno o’r cynllun, sy’n haeddu adolygiad ac ystyriaeth bellach.

"Rwy’n amau y byddwn yn gorffen gyda chynllun gwahanol a fydd yn dod i’r amlwg dros yr ychydig fisoedd nesaf, ond doedden ni ddim am ohirio gweddill y rhaglen.”

Ymateb

Dywedodd James Severs, Cyfarwyddwr Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd yn Hywel Dda wrth Newyddion S4C bod "Glangwili yn ysbyty sy’n heneiddio ac mae sawl her o ran sicrhau bod ein wardiau a’n theatrau’n cyrraedd y safonau uchaf".

“Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau risg tân i sicrhau diogelwch ein staff, cleifion ac ymwelwyr o fewn ein hystâd," meddai.

"Mae nifer o gamau gweithredu o asesiadau risg tân sy’n gofyn am fuddsoddiad cyfalaf neu gamau rheoli lleol i reoli neu liniaru’r risgiau hyn.

“Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, byddwn yn cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer Cam 2 y buddsoddiad cyfalaf ar safle Glangwili.

“Yn y cyfamser, mae mesurau wrth gefn yn cael eu hasesu i ddarparu gwytnwch ychwanegol yn ystod y cyfnod o lai o gapasiti, gan gynnwys y defnydd o safleoedd eraill."

Ychwanegodd: "Ni fydd angen i ni atal llawdriniaeth yn gyfan gwbl ond bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar y mathau o achosion y gallwn eu gwneud yno.

“Mae’n debygol y bydd rhywfaint o aflonyddwch yn ystod y cyfnod hwn ond byddwn yn gweithio’n agos gyda staff a chleifion a diolchwn iddynt ymlaen llaw am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.