Ynys Môn: Dechrau'r gwaith o greu gardd goffa newydd yng Nghaergybi

Gofod newydd ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi

Mae gwaith i drawsnewid safle gwag ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi yn fan gwyrdd newydd gyda gardd goffa ar fin dechrau.

Bydd y gwaith, sy'n rhan o Raglen Adfywio Caergybi, yn dechrau ddydd Iau, 13 Awst, gydag adeilad sydd wedi bod yn wag ers 2016 yn cael ei ddymchwel.

Ar ôl i'r safle gael ei glirio, bydd yn cael ei ddatblygu'n ofod agored newydd gyda gardd a fydd yn coffáu'r rhai sydd wedi colli eu bywydau ar y môr. 

Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, y nod yw creu "amgylchedd groesawgar" i drigolion ac ymwelwyr, gan wella'r rhan yma o ganol y dref.

Cau ffordd

Er mwyn dymchwel yr adeilad yn ddiogel, bydd ffordd ar gau dros dro wrth fynedfa Stryd y Farchnad ddydd Sul, 16 Awst, rhwng 07.00 a 14.00.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, ni fydd cerbydau'n gallu mynd i'r Stryd Fawr drwy Stryd y Farchnad, a bydd llwybrau dargyfeirio ar waith.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra dros dro.

"Rydym yn diolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr am eu hamynedd tra bo’r gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.