Ynys Môn: Corff twristiaeth yn croesawu penderfyniad i wrthod cyflwyno treth ymwelwyr
Mae penderfyniad Cyngor Sir Ynys Môn i beidio â chyflwyno treth twristiaeth am y tro wedi’i groesawu gan gorff sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth.
Cafodd argymhelliad swyddogion i beidio â mabwysiadu’r Ardoll Ymwelwyr ar hyn o bryd ei gefnogi gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor yr wythnos hon, ac fe gafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ddydd Iau.
Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r aelod portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Gary Pritchard: “Mae twristiaeth yn hynod bwysig i Ynys Môn, gan gefnogi swyddi, busnesau a chymunedau ar draws yr ynys.
“Er ein bod yn cydnabod y bwriad y tu ôl i’r ardoll, mae’r dystiolaeth yn dangos nad dyma’r amser iawn i gyflwyno un ar Ynys Môn.
“Mae’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu ystyriaeth gytbwys o’r dystiolaeth sydd ar gael a’r safbwyntiau a rannwyd drwy’r broses ymgynghori.”
Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanarlwywyr (PASC) Cymru wedi disgrifio penderfyniad Cyngor yr ynys fel “buddugoliaeth i synnwyr cyffredin."
Daw’r penderfyniad yr un diwrnod a benderfynodd Cyngor Gwynedd i ohirio penderfyniad ar fabwysiadu’r ardoll yn y sir.
Dywedodd yr awdurdod y byddai’n cynnal dadansoddiad pellach ar yr ymateb “sylweddol” i’w hymgynghoriad, a gafodd dros 7,000 o ymatebion.
'Gwrthwynebiad cryf'
Roedd adroddiad a gyflwynwyd i Gyngor Môn yn tynnu sylw at y pwysau sy’n wynebu’r sector twristiaeth.
Roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi dangos “gwrthwynebiad cryf” i’r syniad ymhlith gweithwyr yn y sector, perchnogion a rheolwyr busnesau ac ymwelwyr.
Roedd trigolion yn “fwy rhanedig” gyda mwy na 58% yn gwrthwynebu, yn ôl adroddiad y Cyngor.
Mae’r Ardoll Ymwelwyr, sydd wedi’i galluogi drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno tâl ar lety ymwelwyr dros nos, gyda’r refeniw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau a seilwaith sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.
Roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi casglu barn dros 2,000 o drigolion, busnesau, rhanddeiliaid twristiaeth a chynrychiolwyr cymunedol ar yr ynys.
Roedd yr ymatebion yn tynnu sylw at bryderon ynghylch costau uwch i ymwelwyr, gallu’r ynys i gystadlu fel cyrchfan a'r baich gweinyddol ychwanegol ar ddarparwyr llety.
'Buddugoliaeth'
Dywed y Cyngor ei fod yn parhau "i gefnogi economi ymwelwyr gynaliadwy" ac y bydd yn gweithio gyda busnesau, cymunedau a phartneriaid i “sicrhau’r budd mwyaf o dwristiaeth wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o weithgarwch ymwelwyr mewn rhai ardaloedd”.
Bydd hefyd yn “parhau i fonitro’r broses o gyflwyno ardollau ymwelwyr mewn rhannau eraill o Gymru."
Cefnogwyd hefyd argymhelliad y dylai Prif Weithredwr y Cyngor, Dylan J. Williams, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i alw am adolygiad o’r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar y dreth.
Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanarlwywyr (PASC UK) yn cefnogi’r sector hunanarlwyo, llety tymor byr a llety gwyliau yng Nghymru a Lloegr.
Disgrifiodd Nicky Williamson o PASC UK Cymru y penderfyniad fel “buddugoliaeth i’w chroesawu, i synnwyr cyffredin”.
“Mae busnesau twristiaeth ledled Cymru wedi bod yn glir ynghylch y pwysau maen nhw eisoes yn eu hwynebu, ac mae’r ymateb i’r ymgynghoriadau hyn yn dangos y pryder ynghylch ychwanegu cost arall at wyliau yng Nghymru.
“Yn syml, nid dyma’r amser iawn i gyflwyno cost arall i fusnesau nac ymwelwyr. Rydym yn croesawu’r ffaith bod cynghorau’n gwrando ar y dystiolaeth ac yn annog eraill i wneud yr un peth cyn gwneud penderfyniadau a allai gael canlyniadau hirdymor i economi ymwelwyr Cymru.”