Ynys Môn: Bywyd newydd i res o dai i’r tlodion wedi 400 mlynedd o hanes
Mae gobaith bydd rhes o elusendai 400 mlwydd oed oedd unwaith yn gartref i dlodion Ynys Môn yn cael ei ddatblygu’n gartrefi modern i bobl ifanc.
Cafodd Elusendai Penmynydd, sy’n adeiladau cofrestredig Gradd II*, eu sefydlu yn 1620 o ganlyniad i rodd yn ewyllys Lewis Rogers yn 1617.
Nod y rhodd oedd darparu cartrefi i dlodion “o gymeriad da a gonest” ym Mhenmynydd a phlwyfi cyfagos.
Er fod cyfraniad gwreiddiol Rogers o £1,000 yn “hael,” mae manylion yn dangos nad oedd hynny’n ddigon i dalu am adeiladu a rhedeg yr Elusendai.
Daeth rhodd ychwanegol i’r fenter yn ewyllys Lewis Owen yn 1624, ychydig flynyddoedd ar ôl i’r safle gael ei adeiladu.
Roedd Lewis Owen yn perthyn i deulu bonheddig Tuduriaid Penmynydd, gyda’i daid yn swyddog yn llys Brenin Lloegr, James I (James VI yn yr Alban).
Roedd yr Elusendai yn wreiddiol yn cael cartrefu 10 dyn dros 50 oed, ond cafodd merched yr hawl i fyw yno yn ddiweddarach hefyd.
Erbyn y 1960au, roedd nifer yr unedau wedi disgyn o ddeg i bump, ac erbyn Mai 2011, roedd y preswylydd olaf, Tom Brown, wedi cael ei ailgartrefu gan y cyngor yn Llangefni.
Mae’r Elusendai, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Tai Lewis Rogers, wedi bod yn wag ers dros 13 mlynedd.
Tair uned fodern
Ddydd Mercher, rhoddodd Cyngor Ynys Môn gymeradwyaeth amodol i gais am ganiatâd adeilad rhestredig, sef cam olaf cynlluniau i droi’r pum eiddo preswyl presennol yn dair uned, yn ôl safle cynllunio’r sir.
Yn ogystal ag estyniadau a newidiadau, mae’r prosiect yn cynnwys cynlluniau i greu mynedfa newydd o’r ffordd a gosod safle trin gwastraff a phaneli solar ar y safle ar Ffordd Penmynydd.
Mae’r cais gan Ymddiriedolaeth Elusendai Penmynydd wedi ei gyflwyno drwy’r asiant Russell Hughes Cyf.
Yn ôl y cynlluniau, roedd dirywiad yng nghyflwr yr adeiladau wedi arwain at benderfyniad gan y cyngor sir i’w heithrio o’r rhestr o adeiladau sy’n cael eu trethu.
“Er eu cyflwr presennol mae’r Elusendai’n parhau yn safle hanesyddol gwerthfawr iawn wrth galon cymuned Penmynydd,” meddai’r cais.
Ar hyn o bryd mae pum tŷ un llawr ar y safle, gyda safleoedd ymolchi tu allan, a dau padog tu allan.
Trafod gyda'r eglwys
“Mae’r adeiladau wedi dirywio’n sylweddol wedi blynyddoedd o ddiffyg defnydd, ac mae eu cyflwr yn golygu nad oes modd byw ynddyn nhw bellach,” meddai'r cais.
Ychwanegodd: “Mae bwrdd yr ymddiriedolaeth ar hyn o bryd yn cynnwys saith aelod - dau sydd wedi gwasanaethu am gyfnod hir a phump sydd wedi ymuno yn y blynyddoedd diweddar.
“Dros y degawd diwethaf mae trafodaethau wedi cael eu cynnal ynghylch dyfodol yr Elusendai.
“Dair blynedd yn ôl, roedd cyfarfod gydag Esgobaeth Bangor, ac fe gynigiodd yr Esgob a’i gynrychiolwyr y gellid trosglwyddo perchnogaeth yr Elusendai i un o’i helusennau.
“Byddai hynny wedi galluogi i’r eiddo gael ei werthu. Ond roedd yr ymddiriedolwyr yn gwrthwynebu’r syniad gan eu bod yn teimlo ei fod yn groes i ddymuniadau Lewis Rogers a chenhadaeth greiddiol yr ymddiriedolaeth.
“Wedi hyn, cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru nad oedd ganddi ddiddordeb pellach yn yr eiddo.
“Mae’r ymddiriedolwyr yn ymrwymedig i barchu dymuniadau Lewis Rogers ac yn credu y byddai unrhyw benderfyniad arall yn amddifadu eu cyfrifoldebau.
“Felly gwnaed y penderfyniad i fwrw ati â’r her o adnewyddu'r Elusendai.”
Ateb 'anghenion Cymry ifanc'
Fe gyfeiriodd y cais hefyd at sefyllfa Penmynydd fel “pentref gwledig sy’n wynebu heriau sylweddol” o ran argaeledd cartrefi.
“Mae prisiau uchel eiddo, diffyg cartrefi fforddiadwy a chyfyngiadau ar adeiladau newydd yn ei gwneud hi bron yn amhosib i bobl ifanc a theuluoedd aros yn yr ardal.
“Mae hyn wedi arwain at ymadawiad siaradwyr Cymraeg ifanc lleol sydd wedi mynd i chwilio am gartrefi yn rhywle arall - datblygiad sy’n effeithio’n negyddol ar gydbwysedd ieithyddol y gymuned.
“Mae’r ymddiriedolwyr yn credu bod anghenion Cymry ym Mhenmynydd yn cydweddu ag ysbryd bwriad gwreiddiol Lewis Rogers, sef darparu ar gyfer y rheiny mewn angen.
“Drwy ddarparu cartrefi modern, fforddiadwy i bobl ifanc, bydd yr Elusendai yn chwarae rôl hanfodol yn y gymuned unwaith eto.”
Bwriad y datblygiad ydy adnewyddu’r adeiladau presennol a darparu tri uned gyda dwy ystafell wely sy’n cydymffurfio â disgwyliadau modern ond hefyd yn cadw undod pensaernïol yr Elusendai.