Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymwelwyr o gŵn gweithio ar ôl i sawl ci fynd ar goll yng Ngwynedd

Cyfarfod cwn gweithio

Mae grŵp o ffermwyr a sefydliadau yng Ngwynedd wedi dod at ei gilydd i lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymwelwyr o gŵn gweithio ar ôl i sawl ci fynd ar goll dros yr wythnosau diwethaf.

O fewn wythnos i'w gilydd, fe aeth cŵn gweithio Elen Williams o Fferm Berthaur ym Mhen Llŷn a Llinos Owen o Fferm Cwm Cloch ym Meddgelert ar goll.

Gan fod llwybrau cyhoeddus yn croesi'r ddwy fferm, mae'r ddwy yn amau bod ymwelwyr wedi mynd â'r cŵn o dan yr argraff eu bod yn ddigartref.

Daeth Ms Williams ar draws llun o gi Ms Owen, Storm, ar Facebook, lle'r oedd yn cael ei hysbysebu ar gyfer cartref newydd dyddiau ar ôl iddi ddiflannu.

Er bod Storm y ci Huntaway bellach wedi dychwelyd adref, mae ci defaid Ms Williams, Turbo, yn parhau ar goll bron i dair wythnos yn ddiweddarach.

Yn sgil yr achosion, trefnodd Ms Owen, sy'n Uwch Siryf Gwynedd, gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a Ms Williams er mwyn trafod sut i atal achosion tebyg rhag digwydd eto.

Y bwriad, meddai, ydi datblygu ymgyrch i helpu ymwelwyr i adnabod cŵn gweithio a gwybod beth i'w wneud os byddant yn dod ar draws ci ar ei ben ei hun.

"Yn dilyn yr holl bethau ddigwyddodd dros yr wythnosau diwethaf, neshi benderfynu bo' fi am drefnu cyfarfod er mwyn trio helpu ffermwyr yn yr un sefyllfa â ni," meddai wrth Newyddion S4C.

Yn ôl Ms Owen, bydd y prosiect yn dechrau yng Ngwynedd gyda phosteri yn cael eu gosod ar gatiau ffermydd.

Bydd pamffledi yn cael eu dosbarthu mewn tafarndai, siopau lleol ac atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys meysydd carafanau, meddai.

Mae'r grŵp hefyd yn ystyried sefydlu tudalen Facebook, ac yn bwriadu trafod ffyrdd eraill o gydweithio gyda gwasanaethau fel EID Cymru, sy'n cofrestru ac yn adrodd symudiadau da byw yng Nghymru yn ddigidol.

Image
Llinos a Gareth Owen
Mae Llinos a Gareth Owen yn byw ar Fferm Cwm Cloch ym Meddgelert

Dywedodd Ms Owen ei bod yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn atal rhagor o achosion fel y rhai a brofodd hi a Ms Williams.

"Mae o'n pryderu fi bod 'na wbath arall yn mynd i ddigwydd yn fan hyn, oni bai bod ni'n neud wbath wan," meddai.

"Dyna pam dwi 'di gweithredu a chysylltu efo'r asiantaethau 'ma i weld sut allwn ni symud ymlaen o hyn i helpu pobl eraill fysa'n gallu bod yn yr un sefyllfa â ni."

Ychwanegodd fod angen gwneud mwy yn gyffredinol i godi ymwybyddiaeth ymwelwyr o sut i ymddwyn yng nghefn gwlad.

"Adeg ŵyna, 'da ni'n cael gymaint o broblemau efo cŵn yn rhydd," meddai.

"Ac mae agwedd rhai pobl yn dorcalonnus ac yn drychinebus, ac eto mae o'n dod lawr i addysgu'r bobl 'ma."

Image
Storm
Storm y ci Huntaway sy'n gweithio ar Fferm Cwm Cloch

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "falch" o weld y prosiect yn cael ei ddatblygu.

"Mae gan brosiectau sy'n helpu i hwyluso'r cyfathrebu rhwng sefydliadau'r potensial i leihau'r gofid i berchnogion pan fydd eu cŵn yn mynd ar goll, a helpu i ddod â chŵn yn ôl at eu perchnogion yn gynt," meddai’r cyngor.

"Gall hyn hefyd olygu defnydd gwell o adnoddau'r Cyngor yn y tymor hir."

Bydd y grŵp yn cyfarfod eto ym mis Awst i drafod y camau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.