Cyhoeddi bod British Steel wedi ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus

Safle British Steel

Mae British Steel wedi ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus er mwyn diogelu “dyfodol cynhyrchu dur” ym Mhrydain, meddai Llywodraeth y DU.

Dywedodd yr Adran Busnes a Masnach ei fod yn hanfodol gwneud hynny er mwyn cynnal cynhyrchu dur ar safle British Steel yn Scunthorpe, Swydd Lincoln.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Ddeddf y Diwydiant Dur (Gwladoli) 2026 gael Cydsyniad Brenhinol a dod yn gyfraith.

Mae’r gyfraith newydd yn caniatáu i weinidogion drosglwyddo cyfranddaliadau neu eiddo busnesau dur i berchnogaeth gyhoeddus.

Mae’r penderfyniad i achub y safle wedi cael ei feirniadu gan rai gwleidyddion sydd wedi cwestiynu pam nad oedd yr un camau wedi eu cymryd ar gyfer safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, lle mae swyddi wedi eu colli.

Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer ddydd Iau: “Mae British Steel yn rhan o wead ein cenedl ac yn gonglfaen i gryfder diwydiannol Prydain.

“Mae penderfyniad heddiw yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yn y DU, yn diogelu swyddi medrus ac yn gwarchod gallu cenedlaethol hanfodol.”

Ychwanegodd: “Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn gweithredu er budd cenedlaethol er mwyn cefnogi diwydiant Prydain, cryfhau ein heconomi a sicrhau bod y diwydiannau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw yn gallu ffynnu ymhell i’r dyfodol.”

‘Perthyn’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Peter Kyle: “British Steel yw un o gynhyrchwyr dur mwyaf y wlad, ac rydw i wedi gwneud y penderfyniad i wladoli’r busnes er mwyn sicrhau’r gallu i gynhyrchu dur a chynnal y cynhyrchu er budd cenedlaethol.

“Mae British Steel bellach yn perthyn i bobl Prydain, ac mae ein ffocws ar y dyfodol: sefydlogi’r busnes, cefnogi’r cymunedau sy’n dibynnu arno, ac adeiladu sector dur cynaliadwy, cystadleuol a di-garbon ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.”

Roedd British Steel gynt yn eiddo i’r cwmni Tsieineaidd Jingye.

Roedd y cwmni wedi bwriadu cau ei ffwrneisi chwyth yn Scunthorpe, Gogledd Swydd Lincoln.

Ond cafodd y Senedd ei galw’n ôl ar ddydd Sadwrn fis Ebrill y llynedd er mwyn cymeradwyo deddfwriaeth mesurau arbennig i gadw’r gwaith ar agor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.