Louis Rees-Zammit yn dechrau wrth i Tandy enwi tim Cymru i wynebu De Affrica

Rees-Zammit (Huw Evans)

Mae Louis Rees-Zammit wedi ail-ennill ei le yn y 15 cychwynnol wrth i Brif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, enwi’i dîm i wynebu De Affrica.

Bydd Cymru yn wynebu y Springboks yn Stadiwm Hollywoodbets Kings Park, Durban, yn nhrydedd rownd y bencampwriaeth ddydd Sadwrn, gyda’r gêm yn fyw ar S4C.

Mae Steve Tandy wedi gwneud chwe newid i’r pymtheg cychwynnol ddechreuodd y gêm yn yr Ariannin y penwythnos diwethaf, gyda Teddy Williams yn ymuno gydag Adam Beard yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, mae Alex Mann yn dechrau ar yr ochr dywyll. Jac Morgan fydd yn flaen-asgellwr agored unwaith eto tra bydd Aaron Wainwright yn parhau’n safle’r wythwr.

Bydd Dan Edwards yn dychwelyd i safle’r maswr, tra bydd Tomos Williams yn fewnwr unwaith yn rhagor.

Mae Ben Thomas, sy’n dechrau fel canolwr cyntaf, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, gyda Max Llewellyn yn bartner iddo yng nghanol y cae.

Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn dechrau ar y ddwy asgell, tra bod Blair Murray yn cadw ei le’n gefnwr.

Roedd Rees-Zammit ar y fainc ar gyfer ail gêm Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn yr Ariannin.

Mae Cymru wedi dewis chwech o flaenwyr a dau olwr ar y fainc. Ryan Elias, Nicky Smith a Ben Warren yw’r eilyddion o safbwynt y rheng flaen. Mae Freddie Thomas, ymunodd â’r garfan yn Durban ddydd Mawrth, yn cynnig opsiwn arall o safbwynt yr ail reng. 

Tommy Reffell a James Botham yw’r eilyddion rheng ôl, tra mai Reuben Morgan-Williams a Joe Hawkins yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.

Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg cychwynnol. 

“Mae’r tymor yn dod i ben, ry’n ni wedi teithio llawer iawn yn ddiweddar, ac mae rhai o’r bechgyn yn haeddu eu cyfle. Mae hyn hefyd yn gyfle i ni ddod ag ychydig o egni ffres i’r tîm.

“De Affrica yw Pencampwyr y Byd wrth gwrs ac mae ganddyn nhw ddyfnder anhygoel ar gael iddyn nhw. 

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ni a cheisio gosod ein hawdurdod a’n patrwm ein hunain ar y chwarae. 

“Ry’n ni eisiau dangos bod ochr gorfforol i’n gêm ni hefyd a hynny’n erbyn tîm mwyaf corfforol yn y byd siwr o fod.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn fwy corfforol yn yr ornest yma na’n gemau diwethaf – ond mae hwn yn gyfle gwych i ni brofi ein hunain yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”

Tîm Cymru i wynebu De Affrica yn Durban

15. Blair Murray (Scarlets – 18 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears – 42 cap)
13. Max Llewellyn (Gloucester Rugby – 12 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd– 18 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd– 72 cap)
10. Dan Edwards (Y Gweilch – 12 cap)
9. Tomos Williams (Saracens – 74 cap)
1. Rhys Carre (Saracens – 30 cap)
2. Dewi Lake (Gloucester Rugby  – 33 cap)
3. Dillon Lewis (Y Dreigiau – 59 cap)
4. Teddy Williams (Caerdydd– 9 cap)
5. Adam Beard (Montpellier – 67 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd– 17 cap)
7. Jac Morgan (Gloucester Rugby – 26 cap)
8. Aaron Wainwright (Leicester Tigers – 69 cap)

Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 50 cap)
17. Nicky Smith (Sale Sharks – 65 cap)
18. Ben Warren (Y Gweilch – 2 cap)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby – 8 cap)
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers – 29 cap)
21. James Botham (Caerdydd– 23 cap)
22. Reuben Morgan-Williams (Y Gweilch– 2 cap)
23. Joe Hawkins (Scarlets – 12 cap)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.