Ymchwilio i drais gwrth-semitaidd ar ôl i bedwar ambiwlans gael eu llosgi
Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos posib o drais gwrth-semitaidd ar ôl i bedwar ambiwlans gael eu rhoi ar dân yn Llundain.
Y Gwasanaeth Ambiwlans Cymunedol Iddewig (Hatzola) oedd yn berchen ar y pedwar ambiwlans meddai Heddlu'r Met.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Highfield yn Golders Green am tua 01.45 fore dydd Llun wedi adroddiadau o dân yno.
Roedd yn rhaid i rai pobl adael eu tai fel mesur diogelwch ac fe gafodd ffyrdd eu cau.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod silindrau oedd yn y cerbydau wedi ffrwydro ac wedi achosi i ffenestri fflatiau gerllaw i falu.
Chafodd neb eu brifo ac mae'r tân wedi ei ddiffodd erbyn hyn.
Yn ôl yr heddlu maen nhw yn chwilio am dri pherson fel rhan o'i hymchwiliad ar hyn o bryd.
Mae Hatzola yn fudiad gwirfoddol Iddewig sydd wedi bod yn cynnig ymateb meddygol mewn argyfwng ac yn cludo pobl i ysbytai am ddim.
Mae wedi bod yn gwasanaethu cymuned Golders Green sydd yng ngogledd Llundain ers 1979.
Mae'r gymuned yn un sydd gyda phoblogaeth uchel o bobl Iddewig.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Sarah Jackson: "Rydyn ni yn gwybod bod y digwyddiad yma yn mynd i achosi pryder mawr yn y gymuned ac fe fydd swyddogion yn parhau yn y safle er mwyn cynnal ymchwiliadau brys."
Does yna neb wedi cael ei harestio eto ond mae'r heddlu yn awyddus i bobl gysylltu os oes gyda nhw unrhyw wybodaeth.
Llun: PA