Tân yng nghanol Caernarfon wedi'i achosi gan nam trydanol
Nam trydanol oedd yn gyfrifol am achosi tân mewn adeilad yng Nghaernarfon nos Wener meddai'r Gwasanaeth Tân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ymateb i dân mewn adeilad yng nghanol y dref toc wedi 20.00.
Roedd sawl fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos tân yn llosgi mewn adeilad dros ffordd i Dafarn y Porth ar Stryd y Porth Mawr.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddydd Llun bod y tân wedi'i ddiffodd y noson honno.
"Cawsom alwad am 20.08 nos Wener i adroddiad am dân mewn adeilad adfeiliedig yng Nghaernarfon," meddai llefarydd.
"Mynychodd dau griw o Gaernarfon ac un o Fangor y digwyddiad a derbyniwyd y neges fod y digwyddiad o dan reolaeth am 22.27 yr un noson.
"Y gred yw bod y tân wedi'i achosi gan nam trydanol."