Ymchwiliad Lucy Letby: 'Methiant llwyr' i warchod babanod

15/09/2026

Ymchwiliad Lucy Letby: 'Methiant llwyr' i warchod babanod

Gallai rhai babanod fod wedi eu hachub rhag marwolaeth a niwed gan y gyn-nyrs Lucy Letby, pe bai cynllun amddiffyn wedi ei weithredu ynghynt, yn ôl ymchwiliad i droseddau'r llofrudd plant. 

Dechreuodd Ymchwiliad Thirlwall yn 2023 wedi i Lucy Letby gael ei dyfarnu'n euog o lofruddio a cheisio llofruddio babanod yn Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer.    

Wrth gyhoeddi ei hadroddiad terfynol ddydd Mawrth, dywedodd y Fonesig Ustus Thirlwall: "Roedd methiant llwyr i ddiogelu babanod yn yr uned newydd-anedig yn yr ysbyty.

"Roedd hyn oherwydd ei bod yn ymddangos na wnaeth unrhyw un ddeall fod angen gweithredu yn y maes diogelu pan fo aelod o staff yn cael ei amau o fod wedi achosi niwed bwriadol ac nid oes angen i gydweithwyr fod yn sicr o euogrwydd. 

"Mae fy adroddiad yn disgrifio rheolaeth a llywodraethu diffygiol, bwlch rhwng arweinyddiaeth ysbytai a chlinigwyr, a methiant i ddeall hanfodion diogelu."

Aeth y Fonesig Ustus Thirlwall ymlaen i ofyn: "Faint o fywydau fyddai wedi gallu cael eu hachub pe bai'r ysbyty wedi gweithredu yn wahanol? Mae hyn yn rhywbeth na fyddwn ni fyth yn siŵr ohono yn iawn.

"Mae'n amlwg y gallai rhai babanod fod wedi cael eu hachub ac y byddai rhai ymosodiadau wedi eu hatal pe bai yna weithredu ynghynt."

Ni wnaeth ei hymchwiliad archwilio euogfarnau na chymhellion Letby, ond yn hytrach fe ganolbwyntiodd ar ymddygiad y rhai oedd yn gweithio yn Ysbyty Countess of Chester, gan gynnwys y bwrdd, rheolwyr, meddygon a nyrsys, o'r adeg y dechreuodd Letby ei gwaith yno yn 2012.

'Trychinebus'

Yn ymateb i'r adroddiad, mae tyst arbenigol yn yr achos llys wedi ei ddisgrifio fel un sy'n dangos yr "esgeulustod mwyaf".

Dr Dewi Evans oedd prif dyst meddygol yr erlyniad ar y pryd.

"Mae'r adroddiadau hyn yn drychinebus", meddai Mr Evans wrth Newyddion S4C. "Maen nhw'n warthus, maen nhw'n dangos yr esgeulustod rhyfedda'.

"Gwirionedd y peth yw hyn, yw bod pawb oedd yn gyfrifol am fabanod wedi methu nhw, wedi ffaelu.

"Roedd y meddygon, i fod yn deg gyda nhw, yn tybio fod Lucy Letby efallai yn niweidio babanod ond heb weithio mas ym mha ffordd oedd hi'n gwneud hynny.

"Bob tro roedden nhw'n siarad gyda'r rheolwyr nyrsio roedd y nyrsys yn edrych ar ôl Letby yn lle edrych ar ôl y babanod. Felly roedden nhw hefyd yn esgeulus tu hwnt.

"O ran y rheolwyr, shwt ar wyneb y ddaear roedd pobol o'r cefndir yna wedi cael eu hapwyntio yn y lle cyntaf? Mae'n rhyfeddol."

Cafodd Lucy Letby sy'n 36 oed eu symud o adran fabanod yr ysbyty i gyflawni dyletswyddau gweinyddol fis Gorffennaf 2016, ar ôl i ymgynghorwyr meddygol fynegi pryderon amdani wrth uwch reolwyr.  

Penderfynodd penaethiaid yr ysbyty i gynnal nifer o adolygiadau, oherwydd cynnydd yn nifer y marwolaeth ymhlith babanod yn 2015 a 2016. 

Chafodd Heddlu Sir Gaer ddim cais i gynnal ymchwiliad tan fis Mai 2017. 

Roedd Letby yn dal i fod yn yr ysbyty tan iddi gael ei harestio flwyddyn yn ddiweddarach.  

Daeth adroddiad Thirlwall i'r casgliad nad oedd uwch nyrsys wedi derbyn bod sail i bryderon yr ymgynghorwyr. 

Roedd hynny wedi arwain at oedi pellach cyn i uwch reolwyr alw'r heddlu, medd y ddogfen. 

Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd nad oedd adolygiadau mewnol ac allanol a gafodd eu comisiynu gan benaethiaid yr ysbyty, wedi ystyried a oedd niwed bwriadol yn digwydd.  

Monitor babi

Mae cyfanswm o 14 o argymhellion wedi eu cyflwyno yn yr adroddiad, yn cynnwys gosod monitor babi ym mhob crud ac inciwbator mewn adrannau babanod newydd-anedig, a rhoi camerau cylch cyfyng wrth oergelloedd sy'n storio insulin.

Yn ôl y Fonesig Ustus Thirlwall, byddai monitor babanod yn sicrhau bod rhieni yn medru goruchwylio eu plant o unrhyw leoliad ar unrhyw adeg. 

Awgrymodd y dylai'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr osod cynllun clir ar ffyrdd o weithredu hynny erbyn 31 Mawrth y flwyddyn nesaf.  

'Urddas rhieni'

Nodwyd hefyd bod nad oedd rhieni dioddefwyr Lucy Letby wedi cael gwybod am yr amheuon a oedd yn ymledu yn yr ysbyty. 

Doedd teuluoedd y babanod ddim yn ymwybodol o'r pryderon hyd nes i'r nyrs gael ei harestio, yn ôl y ddogfen.   

Mae'n nodi hefyd i'r heddlu gysylltu â nhw yng Ngorffennaf 2018.

Dywedodd y Fonesig: "Hoffwn ddiolch i rieni pob un o'r bananod a fu farw, neu a gafodd eu hanafu.  

"Roedd eu tystiolaeth ymhlith y mwyaf teimladwy y gallai unrhyw berson ei glywed.  

"Trwy broses anodd a hir iawn, fe ymatebodd y rhieni yn llawn urddas ac mewn modd penderfynol, gyda'r nod o sicrhau na fydd unrhyw riant arall yn gorfod profi'r fath alar a thor calon."

Mae Lucy Letby o Henffordd yn dal i fynnu ei bod yn ddieuog.  

Mae hi wedi ei charcharu am oes am lofruddio saith baban a cheisio llofruddio saith arall rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Cafodd ei chais i apelio ei wrthod ddwywaith yn 2024.

Bydd y gwrandawiadau cwest i farwolaeth y babanod a gafodd eu llofruddio gan Letby yn cael eu cynnal fis Mai 2027. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.