Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged teulu i fam i bedwar 'brydferth' a fu farw
Mae teulu mam i bedwar a fu farw yn dilyn digwyddiad sydd wedi arwain at ymchwiliad llofruddiaeth yng Nghasnewydd wedi rhoi teyrnged iddi.
Cafodd yr heddlu eu galw Heol St Vincent yn y ddinas yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad o ffrwgwd y tu allan i eiddo yno.
Cafodd Charlene Dowsell ei darganfod yn farw gan barafeddygon wrth ymyl Heol Cas-gwent gerllaw y bore hwnnw.
Mae dyn 66 oed o Gasnewydd, Albert Williams, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Ms Dowsell yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ar hyn o bryd.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn fam i bedwar o blant "hyfryd".
"Mae pobl yn dweud y bydd pethau'n gwella gydag amser, ond ni fydd amser byth yn newid sut rydym ni fel teulu yn teimlo," meddai'r teulu.
"Roedd pawb oedd yn dy adnabod yn iawn yn dy garu di gymaint. Rwyt ti wedi ein gadael gyda'n calonnau wedi eu torri - rydym ni i gyd mewn sioc.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud, ond rydym yn cael cysur yn yr atgofion sydd gennym ohonot ti.
"Doeddet ti ddim yn haeddu'r hyn a ddigwyddodd i ti, ein merch."
'Sylfaen ein teulu'
Fe aeth y teulu ymlaen i ddweud bod colli eu merch mor ifanc yn "dorcalonnus".
"Hi oedd sylfaen ein teulu, ac hebddi mae'n anodd gwybod beth i'w wneud na beth ddaw nesaf," meddai'r teulu.
"Mae pedwar o blant heb fam, ac mae hynny'n dorcalonnus.
"Mae'r dyddiau y byddem yn eu rhannu gyda'n gilydd wedi mynd, ond byddi di bob amser yn fy nghalon.
"Rwyt ti mewn heddwch nawr, ein merch brydferth. Wedi mynd ond byth yn angof."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys deunydd teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd rhwng 01.00 a 03.00 ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600229981.
